Her Pellter i Fanc Bwyd Arfon.

Rydym ni fel criw yn hel arian tuag at fanc bwyd Arfon yn ein sialens ffitrwydd mis Ionawr eleni, byddai unrhyw gyfraniadau at yr achos yn groeso tu hwnt.

Sion Hywyn Griffiths
gan Sion Hywyn Griffiths

Llynedd wnaeth fi a’r hogiau osod sialens ffitrwydd i ni’n hunain i gario ni drwy’r mis, ac i hel arian ar yr un pryd. Y bwriad oedd dringo’r cyfanswm uchder fwyaf posib er budd tîm achub mynydd Llanberis, yn ogystal â pheidio yfed unrhyw alcohol. Fe gasglom ni dros fil o bunnoedd erbyn y diwedd a llwyddodd y rhan helaeth ohonom ni i ddringo uchder Everest yr un yn y broses. Eleni oherwydd y sefyllfa ddigalon sydd ohoni, roedd rhaid meddwl am sialens wahanol i gadw ni’n brysur.

 

Roedd rhaid i ni ddyfeisio sialens fyddai’n fwy heriol na’r flwyddyn ddiwethaf, wrth gadw i reolau covid 19 y llywodraeth yr un pryd. Doedd y mynyddoedd ddim ar gael i ni oherwydd fod rhaid cychwyn pob ymarfer corfforol o’r drws ffrynt, felly pellter oedd y nod eleni. Heb alcohol, wrth gwrs.

 

Rhwng naw ohonom ni roedden ni’n gobeithio cyflawni 870milltir rhyngant ar droed, sef hyd arfordir Cymru. Ond oherwydd ein bod ni’n gystadleuol ofnadwy yn erbyn ein gilydd, rydym wedi cyflawni hynny’n barod. Felly, rydym yn gobeithio gwneud lap o gymru, sef 1030 milltir i hel gymaint a sydd bosib er lles achos teilwng iawn.

 

Mae’ hi wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i ni gyd, ond mae’r pandemig wedi golygu fod sefyllfaoedd pobl sydd wedi eu cloi mewn tlodi yn llawer iawn gwaeth o’i herwydd. Felly, rydym ni yn hel tuag at fanc bwyd Arfon, sydd wedi gwneud y gwaith arwrol o sicrhau nad ydy pobl a theuluoedd sy’n dioddef tu allan o’m golwg yn mynd heb bryd yn eu bol.

 

Byddant yn ddiolchgar tu hwnt am unrhyw gyfraniadau i wasanaeth amhrisiadwy i lawer iawn o bobl. Bydd pob ceiniog yn mynd at fanc bwyd Arfon ac yn ein hysbrydoli ni i barhau tan ddiwedd mis Ionawr.

https://www.justgiving.com/crowdfunding/highdryjanuary2?utm_term=W3xjG6ZNm

 

Diolch o galon,

Sion Hywyn, Sion Gwyn, Iwan Fôn, Iwan Llyr, Mathonwy Llwyd, Lloyd Steele, Cai Gruffydd, Gwion Llywelyn a John Davies.