Mae Osian Jones, o Lanllyfni yn wreiddiol, yn cychwyn ar daith i Gaerdydd heddiw (dydd Iau, Tach 11) – ar ei feic. Bwriad Osian yw cyrraedd Caerdydd erbyn dydd Sadwrn i gyflwyno llythyr i Mark Drakeford o’r Rali Nid Yw Cymru ar Werth. Bydd Osian yn seiclo i Aberystwyth erbyn nos Iau, ac yn casglu tystiolaeth ar y ffordd am yr angen dirfawr i gael tai i bobl Cymru. Yng Nghaernarfon am 7.45 bore ma, roedd negeseuon gan Cai Larsen, Menna Baines a chynghorydd o Sir Fon. Nododd yr olaf fod angen i berchnogion tai haf sylweddoli fod perchennogi dau dy yn andwyol i’r blaned. Mae cael dau dy yn golygu fod rhaid codi mwy o dai i’r rhai sydd heb un.
Aeth Rhys Llwyd efo Osian cyn belled a Phorthmadog, ac roedd criw yn Port yno i ddymuno yn dda i Osian.
Y neges yn blaen yw ‘Mae gan bawb i fyw adre’ a gobeithio y bydd Mark Drakeford yn gweithredu ar yr alwad o rali Cymdeithas yr Iaith ddydd Sadwrn.