Lansio Pantri Cymunedol Penygroes

Cefnogi pobl ….. a helpu’r amgylchedd

gan Ben Gregory

Pantri Cymunedol Penygroes – dyna’r gwasanaeth newydd a lansiwyd gan Yr Orsaf neithiwr, Rhagfyr 22ain. Bydd y prosiect yn dosbarthu bwyd am ddim bob wythnos yn y flwyddyn newydd, gyda dau nod – i leihau gwastraff bwyd ac, yn bwysicach, i roi cymorth i bobl sy’n wynebu heriau ariannol.

Mae’r syniad yn un syml – mae’r Orsaf yn casglu bwyd a rhoddion gan siopau a mudiadau gwahanol, ac yn ystod y sesiwn gall pobl helpu eu hunain i beth bynnag mae nhw eisiau. Yn ystod y sesiwn gyntaf, cyn y Nadolig, daeth dros 20 o bobl i ddefnyddio’r gwasanaeth newydd, gan gasglu cymysgedd o fwydydd tun, sych a ffres. Roedd Yr Orsaf yn ffodus i gael cefnogaeth gan FoodShare, y Co-op, Pencampwr Cymunedol Morrisons, yr ACT Foundation, a Jim Clack, sy’n rhedeg y caffi yn Yr Orsaf. Ar y noson cafodd staff Yr Orsaf help gan wirfoddolwr.

Dywedodd Gwenllian Spink, sy’n trefnu’r Pantri Cymunedol: “Un o’r pethau sydd wedi sbarduno’r Pantri Cymunedol yw’r galw i leihau gwastraff bwyd lleol trwy ail-ddosbarthu bwyd a fuasai’n cael ei daflu gan archfarchnadoedd yn y pen draw. Fel mae pethau’n sefyll, byddai angen ardal bron i faint Cymru i gynhyrchu’r bwyd a diod sy’n cael ei wastraffu ar hyn o bryd yn y D.U., sydd gwerth £13.8 biliwn yn flynyddol.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i FoodShare, Pencampwr Caernarfon ac FareShare, sydd yn rhoi amrywiaeth eang o fwyd i ni ei ddosbarthu, o fwyd ffres i ganiau, o ddanteithion melys i ddiodydd. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Act Foundation, sydd wedi rhoi gwerth £108 o fwyd i ni ei ddosbarthu ar gyfer lansiad y Pantri Cymunedol, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio efo’n partneriaethau i gyd yn y dyfodol. Ar ben hynny, rydym yn hynod o lwcus ein bod efo cogydd dawnus yng nghaffi Yr Orsaf, sydd gallu defnyddio’r cynhyrchion uchod i goginio prydiau cynnes i’w dosbarthu i’r gymuned leol.”

Dywedodd Ben Gregory, aelod o Fwrdd Siop Griffiths, sy’n rhedeg Yr Orsaf: “Dros y flwyddyn ddiwethaf gwelsom gynnydd aruthrol mewn defnydd o fanciau bwyd a phantris cymunedol yng Nghymru. Mae’n arwydd o ddau beth. Un yw’r lefel o dlodi yn ein cymunedau, rhywbeth sy’n hollol annerbynniol. Ond yr ail yw fod pobl yn barod i helpu eu cymydogion. Yn y tymor hir, mae angen i ni ddefnyddio ein hegni i sicrhau nad oes angen i gael pethau fel y pantri, ond rŵan mae angen i roi cymaint o gefnogaeth â phosibl i bobl. Efo’r model Pantri Cymunedol, mae’n bosibl gwneud hyn a helpu’r amgylchedd ar yr un pryd drwy gwtogi gwastraff bwyd.”

Bydd mwy o angen nag erioed ar gyfer y Pantri yn y flwyddyn newydd. Anfonodd un person neges i’r Pantri neithiwr ar ôl cael bag: “Mae’r bag gasglais heddiw wedi fy helpu i fwynhau pryd poeth heno ac wedi rhoi’r gobaith na fyddaf ar fy nghythlwng eto’r gaeaf hwn.”

I wybod pryd mae Pantri Cymunedol Penygroes nesaf cysylltwch â gwenllian.yrorsaf@gmail.com, neu edrych ar facebook Yr Orsaf.