Lansio gwefan i gefnogi pobol sy’n cael eu heffeithio gan ddementia 

Y nod yw cynnal dosbarthiadau ymarfer corff a chodi ymwybyddiaeth

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Dementia Actif Gwynedd wedi lansio gwefan newydd i gefnogi pobol sy’n byw â dementia, eu gofalwyr, teuluoedd a’u ffrindiau.

Er bod y rhaglen wedi’i sefydlu ers 2014, roedd rhaid dod â’r sesiynau wyneb yn wyneb i ben yn sgil y pandemig a chafodd y wefan ei chreu er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth yn parhau.

Cynnal sesiynau ymarfer corff a gweithgaredd corfforol oedd nod wreiddiol y prosiect ond bellach, mae’r gwasanaeth wedi esblygu i fod yn llawer mwy na hynny.

Mae’r wefan hefyd yn cynnwys llu o wybodaeth ddefnyddiol i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr sy’n effeithio dros 42,000 o bobol yng Nghymru.

‘Adnodd gwerthfawr i helpu pobl i ymdopi’

“Rydyn ni wir eisiau i’r wefan fod yn safle sy’n hawdd ei ddefnyddio ac yn adnodd y  gall pobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia a’u teuluoedd fynd i ddod o hyd nid yn unig i’r gweithgareddau rydyn ni’n eu cynnal, ond hefyd eu rhoi mewn cyswllt â gwasanaethau a sefydliadau yng Ngwynedd sydd yno i’w helpu a’u cefnogi, meddai Emma Quaeck, rheolwr Dementia Actif Gwynedd wrth drafod y wefan sydd wedi’i hariannu drwy roddion teuluoedd er cof am anwyliaid.

“Mae’r wefan yn llawn delweddau cadarnhaol, hapus a lliwgar ac rydyn ni’n mawr obeithio y bydd yn adnodd gwerthfawr i helpu pobol i ymdopi a byw cystal â phosib â dementia.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am yr holl roddion caredig rydym wedi’u derbyn ac yn gobeithio ein bod ni wedi gwneud defnydd da ohonynt drwy greu adnodd gwerthfawr yma yng Ngwynedd.”

‘Gallwn barhau i gynnig gwasanaethau’

“Mae’r wefan newydd hon yn golygu y gallwn barhau i gynnig gwasanaethau i bobol sy’n byw gyda dementia er gwaethaf y cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd oherwydd pandemig Covid-19,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Oedolion, Iechyd a Lles.

“Mae’n ein galluogi i weithio gyda’r gwasanaeth iechyd i ddarparu gofal arbenigol i bobl â chyflyrau fel dementia yn eu cymunedau, trwy gynnig nid yn unig ymarfer corff a gweithgaredd corfforol, ond hefyd adnoddau gwerthfawr i helpu pobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd.”