Help efo biliau ynni

Cymorth newydd yn y Dyffryn

gan Ben Gregory
Wardeiniaid-Ynni-heb-logos

Beth sydd ar gael

Mae cynllun newydd wedi dechrau’r wythnos hon i roi gymorth i bobl sy’n poeni am y biliau ynni.

Enw’r cynllun peilot yw Ynny yn y Cartref. Pwrpad y cynllun yw profi a mesur effeithiolrwydd darparu gwasanaethau cyngor a chymorth yn y cartref i bobl ledled Cymru mewn perthynas â mynd i’r afael â thlodi tanwydd. Mae Dyffryn Nantlle yw un o’r ardaloedd sydd wedi cael ei ddewis i ddatblygu’r gwasanaeth.

Bydd Wardeiniaid Ynni Grwp Cynefin yn darparu cyngor am y Warm Home Discount, cynllun Nyth (sy’n helpu effeithlonrwydd ynni tai), tariffs, ymysg pethau eraill. Bydd y profiad yn y Dyffryn yn helpu siapio gwasanaethau tebyg ar ddraws Cymru yn y dyfodol.

Bydd y peilot yn cychwyn ym mis Ionawr 2021 a bydd yn rhedeg am gyfnod o 9 mis hyd at ddiwedd Medi 2021.