Drwy gydol y mis, fe fyddwn yma ar wefan DyffrynNantlle360 yn rhoi sylw i’r bobl o fewn y Dyffryn sydd yn gwneud y pethau bychain a heno, rydym yn cychwyn gyda rhai o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle.
Dros y penwythnos, bu i Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri gynnal Eisteddfod Rithiol ac fe fu rhai o aelodau’r Clwb yn brysur yn cystadlu a hynny yn llwyddiannus. Daeth Catrin Lois (Cwmbran) yn fuddugol yn y gystadleuaeth Llefaru Dan 19 a daeth Begw yn 2il yn y gystadleuaeth. Daeth llwyddiant hefyd i Anni (Lleuar) wrth iddi gipio’r wobr gyntaf yn yr Unawd Offerynnol Dan 27 a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Daeth y Clwb yn 3ydd ar ddiwedd y cystadlu.
Llongyfarchiadau mawr i chi genod ar eich llwyddiant yn yr Eisteddfod.
Mae’r aelodau yn gwneud y pethau bychain drwy fynd ati i gystadlu, cynrychioli’r Clwb a rhoi’r Dyffryn ar fap y Ffermwyr Ifanc.
Diolch i chi am fod mor barod i gyfrannu, cystadlu ac i fentro!
Fe fydd modd i chi weld clipiau o’r cystadlu maes o law (unwaith y bydd dyddiad cau CFFI Cymru wedi bod)…..dydan ni ddim yn gystadleuol cofiwch!