Gwneud gwelliannau i Barc Glynllifon gydag arian gan Lywodraeth Cymru

Bydd gwelliannau yn cael eu gwneud i’r maes parcio, toiledau a’r fynedfa

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Plas Glynllifon

Mae Parc Glynllifon yn un lleoliad fydd yn elwa o gronfa newydd gwerth £2.4 miliwn sy’n anelu at wella profiad ymwelwyr i Gymru.

Bwriad cronfa Y Pethau Pwysig yw rhoi cymorth i sefydliadau wrth gyflawni gwelliannau sylfaenol i seilwaith twristiaeth, a bydd 26 o brosiectau ledled Cymru yn derbyn arian.

Bydd Parc Glynllifon, gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd, yn defnyddio’r arian i wneud gwelliannau i’r toiledau, maes parcio ar fynedfa yno.

Maen nhw’n bwriadu gosod wyneb ‘grasscrete’ yn y maes parcio – system sy’n cyfuno gwair a choncrit mewn ffordd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd – a byddan nhw hefyd yn lledu’r fynedfa.

Y gobaith yw y bydd y gwaith yn gwella profiad twristiaid sy’n ymweld â’r parc.

“Rhan bwysig o brofiadau pobol”

Fe ddywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, bod y gronfa yn hanfodol i gynnal gwaith yn rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru, yn cynnwys Parc Glynllifon.

“Yn dilyn yr haf prysur a gawsom yma yng Nghymru, rydym wedi gweld y rhan bwysig sydd gan amwynderau twristiaeth leol ar wneud taith yn un gofiadwy,” meddai.

“Mae’r cyfleusterau hyn yn aml yn mynd heb sylw ond maent yn rhan bwysig o brofiadau pobol pan fyddant yn ymweld â Chymru ac maent hefyd o fudd i’r rhai sy’n byw yn yr ardal.

“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi’r sefydliadau hyn i wella profiad ymwelwyr yn eu hardaloedd.”