Wyddoch chi fod heddiw ‘ma, Chwefror 26ain, yn Ddiwrnod Cenedlaethol Dweud Stori Tylwyth Teg? Wrth feddwl am straeon tylwyth teg, siŵr eich bod yn meddwl am chwedlau’r brodyr Grimm a straeon Hans Christian Andersen – am Cinderella, Eira Wen, Rumpelstiltskin a Thumbelina. Neu efallai eich bod yn meddwl am chwedlau nes at adra fel Morwyn Llyn y Fan, Clustiau March neu Gantre’r Gwaelod yma yng Nghymru? Ond a wyddoch chi fod Dyffryn Nantlle yn ardal sydd hefyd yn gyforiog yn ei straeon tylwyth teg a’i chwedlau gwerin? Prin oes llecyn yn y fro nad yw’n gysylltiedig â rhyw stori neu hanesyn neu’i gilydd.
Mae’r traddodiad llafar wastad wedi bod yn gryf yng ngorffennol y Cymry. Bellach mae’r hyn a oedd unwaith yn hanesion a straeon llafar a chaent eu hadrodd ar lawr gwlad o oes i oes wedi cael eu cofnodi lawr ar bapur fel chwedlau a straeon gwerin.
Dw i wedi mynd ati i gasglu ynghyd rhai o straeon tylwyth teg a gwerin gorau’r dyffryn. Tybed ydych chi yn gwybod am ragor ohonynt?
Morwyn Garth Dorwen
Un prynhawn aeth gwraig Garth Dorwen, ffermdy ym Mhenygroes, i ffair Caernarfon i gyflogi morwyn fel yr arferid yn yr amser gynt. Sylwodd ar eneth hardd, wallt golau yn sefyll ar ei phen ei hun ychydig oddi wrth y gweddill. Aeth ati a gofynnodd iddi a oedd hi yn edrych am le. Dywedodd hithau ei bod. Cyflogodd hi, merch o’r enw Elain, ac fe’i cafodd yn forwyn ardderchog. Ond ymhen amser aeth hi ar goll yn sydyn, ac ni wyddai neb i ba le yr oedd wedi mynd.
Yr oedd gwraig Garth Dorwen hefyd yn famaeth. Ymhen ysbaid daeth gŵr ar gefn ceffyl hardd i ofyn a ddeuai hi at ei wraig oedd ar fin bod yn fam. Aeth hithau wrth ei sgil, a chymerwyd hi i le a edrychai fel plas mawreddog iawn, y lle crandiaf y bu’r wraig ynddo erioed. Rhoddodd y gŵr botelaid o eli iddi i iro llygaid y baban, gan orchymyn iddi nad oedd i gyffwrdd ei llygaid ei hun ag ef. Ond pan oedd wrth y gwaith digwyddodd i’w llygaid gosi ychydig a chyffyrddodd ag ef â’i llaw, a daeth i weled mai mewn lle cyffredin iawn yr oedd – dim ond math o ogof, ac mai mam y plentyn oedd y forwyn a gollasai – roedd wedi ei syfrdanu yn llwyr.
Ymhen amser cyfarfu â’r gŵr ar yr heol yng Nghaernarfon. Gofynnodd iddo sut yr oedd Elain ei wraig a’i hen forwyn hithau. “Y mae hi’n bur dda,” ebe yntau. “Â pha lygaid yr ydych yn fy ngweled?”
“Â’m llygaid chwith,” ebe hithau.
Cymerodd ynteu frwynen a thynnodd y llygaid allan. Welodd hen wraig Garth Dorwen mo Elain, na’r bobl fach byth ar ôl hynny.
(Y Tylwyth Teg, Hugh Evans. Lerpwl, 1935)
Ffarmwr Drws-y-coed
Cerddai perchennog Drws-y-coed dros y Gader o Feddgelert un noson niwlog. Gwelodd blas hardd a miri dawnsio a chanu yn dod ohono. Er ei fod yn gyfarwydd iawn â’r ffordd, welodd o erioed mo’r plas yma o’r blaen.
“Rhaid fy mod ar goll. Rwy’n flinedig drybeilig hefyd.”
Aeth at y drws.
“Fyddech hi mor garedig â rhoi llety i deithiwr lluddedig?” gofynnodd.
“Ar bob cyfrif. Tyrd i mewn, gyfaill,” meddai’r gŵr ifanc a atebodd y drws.
“Eistedd wrth y bwrdd a bwyta.”
“Tyrd i ddawnsio, mae pawb yn cael hwyl yma,” gwahoddodd geneth dlos, wedi iddi gael ei wledd o fwyd.
“Wel dyma le bendigedig.”
Bu’n dawnsio’n llon am oriau.
“Dowch gyfaill, mae’ch ystafell wely’r ffordd hyn,” meddai ei letywr.
Cysgodd yn hapus braf ar wely esmwyth mewn ystafell hardd. Pan ddeffrodd trannoeth gwelodd yr awyr las uwchben, twmpath o frwyn yn wely oddi tano, a dim arlliw o blas yn unman.
(Straeon Gwydion, Dewi Tomos. Gwasg Carreg Gwalch, 1990)
Cilmyn Droed Ddu
Yn y nawfed ganrif roedd gŵr ifanc dewr o’r enw Cilmyn Droed Ddu yn byw yng Nglynllifon ym mhlwyf Llandwrog. Yr adeg honno roedd llawer o ddewiniaid yn byw yn y wlad a llawer o ellyllon hefyd. Daeth Cilmyn yn ffrindiau ag un o ddewiniaid enwog yr ardal. Roedd y dewin hwn yn gwybod yr holl gyfrinachau ond un, ac roedd honno wedi ei hysgrifennu mewn cyfrol gyfrin. Cadwyd hi mewn ogof ar gopa un o fynyddoedd yr Eifl. Roedd ellyll cas yn edrych ar ôl y gyfrol a doedd neb a fentrai yn agos yno. Roedd y dewin yn dyheu am gael gwybod y gyfrinach oedd ynddi, ac un diwrnod cytunodd Cilmyn i fynd i nôl y gyfrol i’r dewin.
“Rhaid i ti fod yn gyfrwys ac yn ddewr iawn i gael y gyfrol gyfrin,” meddai’r dewin. “Cofia gymryd gofal mawr wrth groesi’r ffrwd sy ar y ffordd i’r mynydd. Mae awdurdod yr Ellyll yn gorffen yn y fan honno. Does ganddo ddim awdurdod yr ochr yma i’r ffrwd, ond paid â gwlychu dy draed yn y dŵr neu fe ddaw niwed i ti.”
Wedi gwisgo ei arfau, fe aeth Cilmyn ar gefn ei geffyl tua mynyddoedd yr Eifl. Yna fe ddringodd y rhiwiau serth nes cyrraedd Tre’r Ceiri ar gopa’r mynyddoedd. Ar grib y mynydd roedd caer fawr lle roedd yr ellyllon yn byw. Roedd gan y prif ellyll gawres yn wraig iddo, ac roedd honno yn gwneud difrod mawr i’r holl ardal. Byddai’n twymo cerrig yn nhân yr ellyll nes eu bod yn eirias, ac wedyn eu taflu i’r meysydd islaw a dinistrio popeth.
Wrth weld Cilmyn yn dod i fyny’r mynydd, neidiodd y gawres yn wyllt ar ei thraed gan ollwng y cerrig i gyd o’i ffedog. Yna bu brwydr ofnadwy rhwng Cilmyn, y Gawres a’r Ellyll. Ond trwy rym ei gleddyf cadarn, trawodd Cilmyn yr Ellyll i’r llawr.
Wedi ennill y trysor, rhuthrodd Cilmyn i lawr y mynydd a’r gawres a’r holl ellyllon ar ei ôl. Yn fuan, cyrhaeddodd afon Llifon, a syrthiodd ei farch blinedig yn farw ar y ddaear, Roedd yr ellyllon ar ei ôl o hyd, ac roedden nhw’n ennill arno, ond gwyddai na allen nhw groesi’r afon. Safodd Cilmyn ar ei draed ar gorff y march marw a rhoddodd un naid fawr i gyrraedd yr ochr arall. Ond llithrodd ei droed ac aeth ei goes i ganol y dŵr. Cafodd Cilmyn waith caled iawn i dynnu’r goes allan o’r dŵr, ac roedd mewn poen ofnadwy.
Cyrhaeddodd gell y dewin dan hercian a rhoddodd y gyfrol iddo. Eisteddodd Cilmyn i orffwys ac erbyn hyn roedd ei goes yn hollol ddu.
Bu’r marchog dewr yn gloff am weddill ei fwyd, ac i gofio ei antur enbyd, gwisgodd arfbais a llun coes ddu arni. Oherwydd hynny cafodd yr enw Cilmyn Droed Ddu.
(Straeon Arfon, Brenda Lewis. Gwasg Gee, 1972)
Llyn Ffynhonnau
Unwaith, aeth Silyn gwas y Gelli Ffrydiau gyda’i ddau gi i fugeilio’r defaid ar lechweddau’r Mynyddfawr. Pan gyrhaeddodd Lyn Ffynhonnau gwelodd dwr o’r Tylwyth Teg yn canu a dawnsio’n nwyfus, ac eraill yn chwarae’r delyn a’r ffidil. Syllodd Silyn arnynt mewn mwynhad pur. Aeth yn nes atynt.
“Tyrd, gyfaill – ymuna yn ein dawns,” gwahoddodd morwyn brydferth.
Yn fuan iawn roedd y gwas a’i gŵn yn neidio a phrancio mor sionc â neb. Âi’r amser heibio fel y gwynt. Yn wir buont wrthi’n dawnsio am dridiau a theirnos heb ball o gwbl. Yn ffodus gwelwyd hwy gan ddewin a drigai ger y llyn. Brysiodd at y dawnswyr ac estynnodd ffon griafol i’r cylch. Ni feiddiai’r tylwyth teg gyffwrdd ynddi. Ond pan ddaeth Silyn ati gafaelodd yn dynn ynddi, a thynnwyd ef o’r cylch chwil.
“O diolch ichi,” ochneidiodd Silyn, “mi fuaswn wedi dawnsio i farwolaeth oni bai am eich cymorth.”
(Straeon Gwydion, Dewi Tomos. Gwasg Carreg Gwalch, 1990)
Mab Llwyn Onn
Rhyw noson loergan yr oedd un o feibion Llwyn Onn yn Nant y Betws, yn mynd i ymweled â’i gariad, merch Clogwyn y Gwin. Ac wrth groesi’r ddôl gerllaw Llyn Cwellyn clywai sŵn canu peraidd, ond ni allai weld neb yn unman.
Safodd yntau i wrando, ac wedi gwrando ychydig, clywai sŵn canu’n nesáu; ac yn y man gwelai liaws o dylwyth teg yn dawnsio tuag ato. Yn fuan daethant i’r lle y safai, a gwelai eu bod yn hynod o fychain, ac wedi eu gwisgo mewn dillad llwydion. Pan ddaeth yr orymdaith gyferbyn ag ef, erfyniodd y bobl fach arno i ymuno â hwy. Yna dechreuodd y canu drachefn, a llithiwyd ef gan swyn y canu a’r dawnsio nes yr aeth i mewn i’w canol.
Yn awr fe’i gwelai ei hun mewn gwlad brydferth, yr harddaf a welsai erioed, a threuliai pawb eu hamser yno mewn digrifwch a llawenydd. Ac er iddo dreulio saith mlynedd yno, nid ymddangosai’r cwbl yn ddim mwy na breuddwyd nos iddo ef.
Ond un diwrnod, hiraethai am ei gartref ac am ei gariad, a chafodd ganiatâd gan y tylwyth teg i ddychwelyd yn ôl adref i’w wlad ei hun. Yn ddisymwth, canfu ei hun yn ôl ar y ddôl lle gwelsai’r tylwyth teg y tro cyntaf. Yr oedd hi bellach yn rhy hwyr i fynd i weld ei gariad, felly dychwelodd adref. Ond dychrynwyd ef yn fawr pan gyrhaeddodd yno. Nid oedd ei frodyr a’i chwiorydd yn ei adnabod, roedd ei dad a’i fam wedi marw, ac roedd ei gariad, merch Clogwyn y Gwin, wedi priodi un arall. Credai ef mai am ychydig o oriau yn unig y bu yng Ngwlad y Tylwyth Teg.
Aeth y llanc yn ôl i’r ddôl lle y gwelsai’r bobl fach gan obeithio y caiff ddychwelyd atynt hwy; ond er disgwyl a disgwyl ni ddaeth y tylwyth teg yno drachefn.
Dychwelodd yntau adref at ei frodyr a’i chwiorydd gan ddisgwyl gallu anghofio popeth. Ond yr oedd marw ei rieni a’r siom o golli ei gariad yn loes rhy drom iddo, ac ymhen llai nag wythnos bu yntau farw o dor calon.
(Straeon y Cymry: Chwedlau Gwerin, William Rowland. Aberystwyth, 1935.)
Morwyn Llyn y Dywarchen
Un diwrnod niwlog o haf, bugeiliai Einyr ar lethr y Garn uwchben Llyn Y Gadair. Roedd newydd groesi’r afonig sy’n llifo o Gwm Marchnad tua’r llyn pan welodd ferch hynod o brydferth yn eistedd yng nghysgod twmpath o frwyn. Ei llygaid oedd fel yr awyr las, ac islaw iddynt “ddau rosyn coch, un ar bob boch.”
Syrthiodd dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi, a hynny ar yr olwg gyntaf. Dechreuasant sgwrsio yn y man, a hoffodd hithau yntau. Wedi’r cyfarfod cyntaf yma, dechreuodd y ddau gyfarfod yn gyfrinachol yma a thraw o gwmpas Llyn y Gadair. Roeddent wedi mopio’u pennau yn lân. Yn aml iawn, pan eisteddai Einyr ar y llechweddau yn gwylio’i braidd, canai bennill tebyg i hwn:
“O! Bela’ rwy’n hoffi dy rudd,
Mil harddach dy wefus na rhos.
Myfyriaf amdanat y dydd
Tydi yw fy mreuddwyd y nos.”
Ymhen amser penderfynodd y ddau gariad briodi, ond rhaid cael caniatâd ei theulu yn gyntaf. Ryw noswaith loergan, cytunwyd i gyfarfod yn y coed. Aeth Einyr yno, ond nid oedd argoel o Bela na’i theulu yn unman. Yna, wedi i’r lleuad ddiflannu tu ôl i’r Garn, ymddangosant yn sydyn o’i flaen. Dywedodd y tad wrth Einyr.
“Cei briodi fy merch ar un amod, na threwi di hi â haearn. Os cyffyrddi byth ei chnawd a haearn, bydd y briodas ar ben, ac fe ddychwel at ei theulu.”
Ni welwyd erioed bâr hapusach a phrydferthach ar ddydd eu priodas nag Einyr a Bela. Aeth y si ar led fod swm mawr o arian wedi dod i’r pâr ifanc oddi wrth deulu Bela, ac yn fuan iawn roedd y teulu yn gyfoethog dros ben.
Bu eu bywyd yn felys a dedwydd am flynyddoedd. Ganwyd amryw o blant bach cariadus iddynt, ac nid oedd deulu closiach yn yr ardal gyfan. Llewyrchodd y fferm y tu hwnt i holl obeithion Einyr. Llwyddai popeth y troai Bela ei llaw ato. Dywed yr hen air mai i’r pant y rhed y dŵr, ac felly y bu yma, yn sicr i chi.
Ond ni cheir y melys heb y chwerw.
Un diwrnod aeth y ddau allan i farchogaeth, a digwyddodd iddynt fyned i ymyl Llyn y Gadair. Fe aeth ei cheffyl hi i’r gors a suddodd y march at ei dor mewn tonnen. Wedi tynnu ei annwyl Bela oddi ar ei cheffyl cariodd Einyr ei wraig yn ofalus i dir sych. Wedi cryn stryffaglu llwyddodd i dynnu ei cheffyl yn rhydd o afael sugnog y gors.
Yna cododd Bela ar gefn ei geffyl ei hun. Ond, wrth roi ei throed yn y warthol, llithrodd yr haearn a chyffyrddodd yn ysgafn â’i phen-glin.
“O! Einyr, Einyr,” ochneidiodd Bela’n dorcalonnus. “Ffarwel, ffarwel.”
Aeth ymaith tua Llyn y Dywarchen. Rhedodd Einyr ar ei hôl.
“Bela, Bela, tyrd yn ôl! Damwain oedd hi. Wnes i ddim mo dy daro di. Bela, tyrd yn ôl!”
Clywodd Einyr sŵn canu soniarus, ac ymddangosodd nifer o deulu bach ei wraig o’r tu ôl i’r coed a’r cerrig. Prysurodd Bela a’i theulu ymlaen tua phen pellaf y llyn ac at y llwyn o goed lle’r arferant gyfarfod ers talwm. Yna diflannodd pob un ohonynt i Wlad Hud a Lledrith dan ddyfroedd oer y llyn.
Ond cymaint oedd cariad Bela tuag at ei theulu fel y dyfeisiodd ffordd i gael eu gweld heb dorri cyfraith Gwlad Hud a Lledith. Ffurfiodd dywarchen fawr i nofio ar wyneb y llyn, ac eisteddai arni am oriau bwygilydd i sgwrsio â’i gŵr a’i phlant. Drwy hynny, roedd yn rhan o’r llyn ond yn medru bod ar dir sych ar yr un pryd. Parhaodd i ymweld â hwy felly tra buont fyw. Yn rhyfedd iawn, fel yr heneiddia’r plant, arhosai’r fam mor ieuanc ag erioed. Pan aethant hwy’n benwyn a gwargam, parhâi hi’n wraig ieuanc brydferth. Bu eu hepil yn ffermio Drws-y-coed am genedlaethau.
(Straeon Gwydion, Dewi Tomos. Gwasg Carreg Gwalch, 1990)