Enillydd Stori Fer Radio Cymru 2021

Awdur y dyfodol

gan Ysgol Brynaerau

Llongyfarchiadau anferthol i Elan, Blwyddyn 5, Ysgol Brynaerau am ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Stori Fer Radio Cymru yn y categori Blwyddyn 5 a 6.

Roedd Elan wedi ysgrifennu stori ddychmygol dros ben ar y teitl Y Llwybr Hud ble roedd plentyn wedi mynd i fyd llawn siocled a fferins! Doedd dim rhyfedd felly mai y ffug-enw buddugol oedd ‘Malws Melys’.

Bellach mae stori Elan wedi cael ei chyhoeddi ar wefan BBC Cymru Fyw. Gallwch weld y stori a chlywed Elan yn ei darllen trwy ddilyn y ddolen isod:

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/56735299

Derbyniodd Elan becyn o adnoddau a thaleb gan y Cyngor Llyfrau fel gwobr ynghyd a’r fraint o gael arlunydd enwog sef Huw Aaron i ddylunio clawr arbennig ar gyfer ei stori. Gallwch weld y clawr wrth ddilyn y ddolen uchod.

Pwy a wyr, efallai mai Elan fydd yr awdures enwog nesaf yn yr ardal.