Diolch Selina a Dafydd

Siop bapur Penygroes yn cau

angharad tomos
gan angharad tomos
Selina

Wedi 19 mlynedd o agor yn gynnar, gwerthu bara, papur newydd, cylchgronnau ymysg pethau eraill, mae siop Selina a Dafydd yn cau heddiw, Rhagfyr 4ydd. Cymryd drosodd gan Haydn a Nancy wnaethon nhw yn 2003 a ddaru nhw ddim meddwl y byddent wrthi gyhyd. Aml fu eu cymwynas a bydd colled fawr ar eu hol. Buont ar agor drwy Covid, gan fynd yr ail filltir i sawl un wrth ddanfon neges at garreg y drws. Pob dymuniad da iddynt, ac yn eu cartref newydd ym Mhenygroes.

1 sylw

William Owen
William Owen

Newydd trist. Colled i’r ardal. Yn digwydd yn rhy aml mewn llefydd eraill hefyd e.e. Caernarfon a Bangor

Mae’r sylwadau wedi cau.