I bawb sy’n byw neu’n teithio drwy’r Groeslon mae stad tai Cae Sarn wastad yn wledd adeg y Nadolig. Yn wledd o oleuadau Nadolig o bob lliw a llun. A dros y cyfnod yn 2020 llwyddodd Andrew Bearman a Shelley a Robin Williams i gasglu £440 at elusen Awyr Las drwy addurno’u tai.
Mae Andrew Bearman wastad wedi gwirioni efo’r Nadolig. “Dw i’n mynd yn wirion bob blwyddyn,” meddai, ac mae wrth ei fodd yn addurno’r tŷ mewn pob math o oleuadau a ffigyrau ‘Dolig lliwgar.
Dechrau addurno’r tŷ pan oedd y plant yn fach oedd hanes Shelley a Robin Williams. Bob blwyddyn wedyn byddant yn mynd ati i brynu addurniadau newydd a mwy o oleuadau i ychwanegu i’w casgliad.
Maen nhw wedi bod yn casglu arian bob Nadolig ers tua 10 mlynedd bellach, a hynny at elusennau megis yr Ambiwlans Awyr ac ymgyrch casglu arian i gael diffib i’r pentref. Elusen Awyr Las oedd y dewis amlwg yn 2020, a llwyddon nhw i gasglu mwy o arian y llynedd na’r un flwyddyn flaenorol.
Meddai Andrew, “Flwyddyn dwytha di’r gora da ni rioed ‘di cael. Fuo ni ar Heno hefyd, dydi hynna rioed ‘di digwydd o’r blaen, dani rioed ‘di cal bod ar y teledu o’r blaen.”
Hoffai’r criw ddiolch o galon i griw Heno am gael y cyfle i fod ar y teledu ac i godi ymwybyddiaeth o’u hachos.
Maen nhw’n bwriadu parhau efo hyn bob gaeaf, felly bydd Cae Sarn yn groto Nadolig am flynyddoedd lawer i ddod!
Hefyd drwy gydol haf 2020, llwyddodd trigolion Cae Sarn i gasglu £2362.05 at yr un elusen, Awyr Las. Cynhaliwyd nifer o weithgareddau o bellter cymdeithasol fel nosweithiau Bingo Stepan Drws, stondin llyfrau a her torri gwallt. Y gobaith yw ailgychwyn y rheini unwaith bydd y nosweithiau’n hirach a chynhesach, a’r rheolau yn caniatáu.
Da iawn trigolion Cae Sarn!