“Cantorion pop cyntaf y diwylliant Cymraeg”?

Stori ryfeddol Y Brodyr Francis o Nantlle – mewn erthygl, sgwrs radio a darlith Zoom

Ffion Eluned Owen
gan Ffion Eluned Owen
Owen Francis, Bob Owen a Griffith Francis

Owen Francis, Bob Owen a Griffith Francis

Tybed faint ohonoch chi sy’n gyfarwydd â chân Sobin a’r Smaeliaid, Quarry Mans Arms, ac wedi cyd-ganu am ‘yr hen Frodyr Francis a John Jones Talysarn’ fwy nag unwaith? Ydych chi erioed wedi meddwl pwy oedd ‘yr hen Frodyr Francis’ go iawn?

Mae rhan o fy ymchwil i ddiwylliant llenyddol a cherddorol Dyffryn Nantlle yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif yn canolbwyntio ar fywyd a chyfraniad y ddau frawd talentog, Griffith ac Owen Francis.

Mae stori’r ddau labrwr o Nantlle a wnaeth fwy na neb i atgyfodi’r gelfyddyd o ganu penillion telyn yn chwarter cyntaf y ganrif yn rhyfeddol, ac yn ddirdynnol ar adegau. Dau chwarelwr cyffredin a gollodd eu rhieni pan oedden nhw’n blant bach, ac a adawodd yr ysgol yn 14 a 12 oed. Dau frawd oedd yn gweithio o ddydd i ddydd yn chwarel Pen-yr-orsedd, ond yn serennu ar lwyfannau Cymru a thu hwnt yn ystod y nosweithiau a’r penwythnosau. Prin iawn ydi’r bobl heddiw sy’n cofio eu perfformiadau a’u henwogrwydd. Llai byth sy’n cofio dawn Griffith, y brawd hynaf fel bardd, ac Owen y brawd bach, fel cerddor.

Bues i’n lwcus iawn wrth ymchwilio i gael mynediad at nifer o’u harchifau a’u papurau personol, yn ogystal â sgyrsiau gydag aelodau’r teulu, ac mae’n bleser cael rhannu stori ryfeddol y brodyr o’r newydd mewn darlith, sgwrs radio ac erthygl yn ddiweddar.

Mae eu stori nhw yn rhan bwysig o’n hanes ni, ac yn adlewyrchu gweithgarwch a bywiogrwydd llenyddol a cherddorol y Dyffryn ganrif yn ôl.

I ddarllen, gwylio neu gwrando ar fwy o’r hanes, dilynwch y dolenni canlynol:

 

Erthygl ar wefan BBC Cymru Fyw:

Dr Ffion Eluned Owen o Ddyffryn Nantlle fu’n rhannu ei hymchwil ar y ddau chwarelwr fu’n serennu ar lwyfannau Cymru a thu hwnt ar ddechrau’r 20fed ganrif gyda Cymru Fyw.

Y Brodyr Francis: gwrthod cytundeb gyda label recordio HMV – BBC Cymru Fyw

 

Sgwrs ar raglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru (5 Rhagfyr 2021)

Gellir gwrando ar y sgwrs radio rhwng 15:18 a 38:38:

Dei Tomos – Canu cynulleidfaol gan y Cymry yn UDA – BBC Sounds

 

Darlith Ddigidol Dolan / Yr Orsaf: ‘Fe erys swyn eu lleisiau…: Cofio’r hen Frodyr Francis’

Gellir gwylio’r ddarlith a draddodwyd yn wreiddiol dros Zoom ar nos Sul 28 Tachwedd 2021 yma:

Y Brodyr Francis – Dolan | AM (amam.cymru)

Darn bach ychwanegol i Dyffryn Nantlle 360 …

Mae dyddiadur poced Owen Francis o fisoedd cyntaf 1915 yn rhoi cip i ni ar eu prysurdeb a rhai o’u trefniadau teithio:

Ionawr – Ebrill 1915

1 Ionawr: Ein tri yn aros yn Llanerchymedd, cychwyn oddiyno gyda’r trên 7.39. Owen Huws yn mynd am Gapel Uchaf, G ac OWF yn myned am Gwytherin, 8 milltir i fyny’r wlad i Lanrwst, cyrraedd yno 1.35. Cyfarfod cystadleuol y prydnawn, a chyngerdd am 6 y nos. Hwyl neilltuol. Cyfeilydd o Lansanan. Aros gyda Mr a Mrs Edwards y Shop.

2 Ionawr: Motor o Lanrwst i Groesymynydd i weld W. W. Jones, yno walk i lawr i Gonwy, 2 filltir, dychwel gyda’r nos 5.49, aros awr yng Nghaernarvon, gartref erbyn 8.45.

25 a 26 Ionawr: Griff yn canu yn y Drill Hall Penygroes, cyngherdd ymrestru gan y Corphlu Cymreig, fu ar daith drwy Feirion ac Arfon.

19 Chwefror: Ein dau yn cadw cyngherdd yn Llansanan ac yn aros gyda Mr a Mrs Jones Post Office. Dychwel gyda Hasecaial Davies i Abergele erbyn 11.45. Cawsom 20/- yr un a’n costau, sef llety, a’r costau teithiol 7/1 yr un.

27 Chwefror: Ein tri yn cadw cyngherdd ym Moriah Port Dinorwic, am 3.3.0 a’n costau teithiol. Dychwel gyda’r ‘Mail’ fore Sul. Aros gyda Mr W. Williams y Dderwen. Gwasanaethwyd gan Llinos Menai, Blodwen Williams, Ela Williams ar y piano, Griffith ac OW Francis, ac O Hughes ALCM.

2 Ebrill: Ein tri yn Carmel ger Llanrwst. Cyfarfod cystadleuol yn y prydnawn a chyngerdd yn yr hwyr, £4-4-0 a’r costau oll yn £5-5-0. Aros gyda Mr a Mrs Owen yn ‘Farm Yard’ hyd brydnawn Llun, yna cychwyn am Gwytherin ein pedwar, William, ac Owen Huws, a’m brawd a minnau.

5 Ebrill: Ein pedwar yn Gwytherin, Owen a William Huws, G ac OW Francis, yn cadw cyngerdd, arweinydd Mr John Morris ger Pandy Tudur. Cychwyn gartref foreu gwlyb mawrth aros yn nhŷ yr ysgol gyda Mr a Mrs Jones, Owen Huws a minnau gyda Mr Morris yn ei gerbyd £5-5-0.

17 Ebrill: Arwain y canu yng nghymanfa Tal-y-sarn. Organydd Owen Huws ALCM. Cymanfa wir dda ym mhob ystyr.