Hoff fardd Dyffryn Nantlle, a gweddill Cymru, yw R.Williams Parry, ac yn ddiweddar, canfyddwyd dros 30 llythyr coll ganddo i’w gyfaill Silyn, bardd arall o’r dyffryn.
Maent yn dyddio yn ôl i 1915 ond mae’r mwyafrif o’r flwyddyn 1917. Buont yn gorwedd ymysg archifau y WEA (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr) nes i Angharad Tomos a dwy arall ddechrau mynd drwy y bocsus. Meddai Angharad,
“Roedd llond amlen frown o lythyrau o’r Rhyfel i Silyn gan ŵr o’r enw Llion, na wyddem ddim yn ei gylch. O ddarllen cynnwys y llythyrau, mae’n amlwg mai rhai Williams Parry ydynt. ‘Llion’ oedd ei ffugenw yn Eisteddfod 1910 pan enillodd y gadair am Awdl yr Haf.
Mae yna un doniol ofnadwy am Williams Parry yn dweud ei hanes yn arwain steddfod yn Nhanrallt Llanllyfni ym 1915, ac yn sôn am helyntion beirniadu. Mae cymaint o wahaniaeth rhwng diniweidrwydd y llythyr hwnnw, a’r rhai diweddarach o’r Fyddin” meddai Angharad.
Yn y llythyrau, mae Williams Parry yn anfon ei gerddi, ac yn eu trafod, ond mae swm a sylwedd y llythyrau yn sôn pa mor unig ydyw yn y Fyddin. Dyma ddyfyniad o un,
‘Yr incedentals mewn rhyfel yw’r pethau gwaethaf – mae’r bedd ei hun yn drugarog iawn:- oerni, cwmni anghydnaws, unigrwydd, diflastod, gerwindra dyn a natur – dyna yw’r pethau mwyaf anymunol ynglyn a hwy. Cerdded i fewn i’r hut, a dim un o’r lliaws Cymry a Saeson yno y gallwch gael ‘sgwrs gall’ efo nhw am hanner munud heb son am hanner awr: ddim ond son am spree a’r gwn mawr. Ond bydd fy sense of humour yn dod i’r rescue yn aml. Fel y dywedais wrthych o’r blaen, ni fyddai’n ddim gen i fod mewn bayonet charge efo ysbrydion etholedig fel Hamlet neu Elidir Sais. Mae rhyfel heb ei rhamant yn waeth na marwolaeth.’
Mae yn crefu am gymorth Silyn i’w helpu i newid catrawd. Meddai, ‘Dwyf fi ddim am fynd i’r angau yng nghwmni Cockneys’. Yn ffodus, llwyddodd Silyn i’w helpu i fynd i gatrawd lle gallodd fod ymysg Cymru. Oherwydd ei iechyd (a’i olwg gwael) ni orfodwyd Williams Parry i fynd i faes y gad, a gwaith clercio gafodd yn ystod y Rhyfel, ond roedd yr ofn yno’n barhaol y cai ei basio yn A1 a’i anfon i Ffrainc. Drwy gyfnod y llythyrau (1917) mae yn sgwennu cerddi i goffhau ffrindiau laddwyd yn y Rhyfel. Ond B2 a B1 oedd ei gyflwr ef, ac fe’i arbedwyd rhag y gwaethaf. Er ei fod yn filwr anobeithiol, bu raid iddo gael yr hyfforddiant llawn fel milwr. Od ydi gweld cyfarwyddiadau sut i ladd yn llawysgrif Bardd yr Haf, ddaw o ‘Notes’ e.e. ‘Always explain that when he is taking the final pressure, he must restrain the breathing (tip. Just tell the man to listen to his watch ticking)‘.
Mae un llythyr gorfoleddus wedi ei sgwennu – ar ddydd olaf y Rhyfel,
‘Glory be! Hallelujah! Bendigedig! Wele gyfiawnder fel y môr a heddwch fel
tonnau’r môr. Yr wyf yn rhy orfoleddus i sgwennu bron. Rhaid i mi fynd i’r synagog
neu’r dafarn.’
Ac wrth gwrs, mae’r frawddeg olaf yn cael ei defnyddio ugain mlynedd yn ddiweddarach yn ‘Cymru 1937’, – ‘Chwyth ef i’r synagog neu chwyth ef i’r dafarn.’
“Mae hwn yn gasgliad gwerthfawr sydd yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o R.Williams Parry fel dyn ac fel bardd” meddai Angharad. Alan Llwyd sydd wedi sgwennu cofiant y bardd, ‘Bob’ yn 2013.