Addasu trefniadau Ysgolion oherwydd y Cofid

Dyma sut aeth Ysgol Brynaerau i addasu eu trefniadau oherwydd y Cofid (trwy lygaid y plant)

gan Ysgol Brynaerau

Fel pob ysgol arall, rydym yn Ysgol Brynaerau wedi gorfod addasu trefniadau yr ysgol yn llwyr o ganlyniad i Cofid 19. Er y newid byd, rydym dal i gael profiadau gwerthafwr a digonedd o hwyl, a hynny mewn ffyrdd diogel.

Dyma sydd gan disgyblion Blynyddoedd 4, 5 a 6 Brynaerau i ddweud am y newidiadau:

Y Cyfnod Clo Cyntaf

“Tair wythnos cyn y cyfnod clo cyntaf (a phwy fuasai wedi meddwl bryd hynny y buasai’r wlad dan glo dair wythnos wedyn??), aeth blwyddyn 4, 5 a 6 Brynaerau a blwyddyn 5 a 6 Ysgol Talysarn am drip i Gaerdydd. Cawsom lot o hwyl yng Nghaerdydd e.e. cawsom fynd i’r parc dŵr, Sain Ffagan a gwylio ffilm. Yn anffodus, doedd hi ddim yn bosib mynd ar dripiau ar ôl hynny gan fod y Cyfnod Clo Cyntaf wedi cyrraedd a’r coronaferiws yn sboelio ein cynlluniau a’n plentyndod!! Roedd rhaid i ni gyd ddechrau dysgu adref. Roedd yr athrawon yn gosod tasgau ar ddydd Llun ac yna roeddem yn cael wythnos i’w cwblhau. Nid oedd unrhyw un wedi meddwl y buasem yn dysgu adref am gymaint o fisoedd. Roedd tasgau Codi Calon yn cael eu rhannu gyda ni bob dydd ac roeddem yn cael llawer o hwyl yn cwblhau y rhain e.e. helfa drysor yn yr ardd neu crefftau. Beth oedd yn drist oedd, nid oedd posib dweud ffarwel wrth griw Blwyddyn 6 cyn iddynt adael i’r Ysgol Uwchradd.”

Gwersi Offerynnol

“Pan ddaeth y cyfnod clo, yn ôl ym mis Mawrth, roeddwn yn teimlo yn siomedig oherwydd yr wythnos wedyn roedd gen i arholiad gradd 1 ffliwt i fod. Ond wrth gwrs, fel bob dim arall fe gafodd ei ohurio. Mewn dim o dro newidiodd y gwersi offerynnol ac yn lle gwersi wyneb yn wyneb, rydym bellach yn cael gwers ar-lein ar Zoom. Mae gwers ar Zoom yn hawdd oherwydd dim ond pwyso “Join Meeting” sydd angen a byddwch yn y wers offerynnol yn ddiogel o adra. Rydw i am wneud gradd 2 ffliwt ar-lein /fidio mis nesaf ac rydw i yn gyffrous i wneud hyn oherwydd bydd hyn yn brofiad newydd. Rydw i hefyd wedi gallu gwneud pethau fel cymryd rhan mewn cerddorfa rhithiol arno, gweithdai offerynnol, a Fforwm Gwasanaeth William Matheias. Mae gwersi ar lein wedi bod yn gret!!”

“Roedd 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd a doedd dim posib mynd i lefydd. Ges i siom yn gwybod nad oedd band Rhanbarth na Deiniolen, ond doedd dim yn dweud ein bod yn gorfod stopio y gwersi. Rydym rwan yn cael gwersi Corn, Ffliwt, Piano a Clarinet ar Zoom. Rydw i yn chwarae Corn ac yn codi am 7:30 yn y bore er mwyn bod yn barod i gychwyn am 7:45. Mae Mr. Williams yn athro Corn i mi ac yn gwneud job ardderchog rhaid i mi ddweud. Y peth digri sydd yn digwydd yw mae’r sgrin yn rhewi ac mae Mr. Williams a minnau yn edrych fel robotiaid. Dwi yn teimlo yn o lew gyda hyn ond dwi yn edrych ymlaen i gael gwersi wyneb yn wyneb (nid yn agos eithriadol jyst pellter o ryw fetr neu ddwy). Mae hyn yn eitha hawdd ond gan ei fod yn rhewi weithiau, tydw i ddim yn deall beth mae Mr. Williams yn ei ddweud. Rydw i yn hoffi gwneud hyn ar Zoom oherwydd rydw i yn cael ei wneud yn fy mhyjamas heb orfod newid! Tydi’r Corona ddim yn stopio Nanw rhag chwarae Corn!!”

“Fel arfer fyswn i yn cael gwersi ffliwt yn yr ysgol ond oherwydd coronafeirws doeddwn i’n methu mynd i’r ysgol i ddysgu. Felly roedd fy athrawes ffliwt wedi gofyn os oeddwn i eisiau gwersi dros Zoom am ein bod yn methu ei wneud yn yr ysgol. Pan ofynnodd hi hyn roeddwn yn wen o glust i glust gan fy mod yn cael dysgu ffliwt unwaith eto. Felly rwan rwyf yn cael gwersi ar Zoom. Mae dysgu chwarae ffliwt ar lein yn anoddach na dysgu yn yr ysgol oherwydd weithiau mae’r sgrin yn rhewi a dydw i’n methu clywed be mae fy athrawes yn ei ddweud. Fyswn i’n drist os fyswn i methu chwarae ffliwt ond er ei bod yn anodd rwyf dal yn falch fy mod i yn gallu cael gwersi ar lein. Mae chwarae ffliwt yn anhygoel, felly rwyf yn ddiolchgar am y cyfle i ddysgu chwarae.”

Mis Medi

“Wedi pum mis i ffwrdd o’r ysgol, daeth yn amser i ni gyd ddychwelyd. Hwre! – Roedd sŵn plant yn atseinio trwy’r ysgol unwaith eto! Er hynny, mae’r flwyddyn yma yn un wahanol iawn oherwydd coronafirus; Y peth mwyaf ydy, nid ydym yn cael chwarae gyda phlant dosbarth Mrs Thomas na dosbarth Mrs Rhys, tu mewn NA thu allan!! Rydym i gyd mewn bybyls felly nid ydym yn cael mynd yn agos at y dosbarthiadau eraill. O ganlyniad i hyn, am y tro cyntaf, mae’n rhaid i bawb fwyta eu cinio yn y dosbarth. Ar ben hynny, mae’n rhaid golchi a diheintio ein dwylo TRWY’R AMSER!!!”

Noson Sinema

“Mae cael noson sinema yn Ysgol Brynaerau yn llawer o hwyl bob tro, ond eleni, roedd pethau yn wahanol iawn. Os na fysa’r firys yma, fysa ni wedi cael yr holl blant yn y neuadd a gwylio ffilm ar y sgrin fawr. Ond, gan ein bod mewn bybyls eleni, doedd hynny ddim yn bosib ac roedd rhaid gwylio’r ffilms yn ein dosbarthiadau. Nid oeddem yn cael dod â blancedi i’r noson sinema eleni oherwydd ella fysa gan rhywun y firys a wedyn fysa nhw yn tisian ar y blanced a fysa y plentyn arall yn dod â’r firys adref. Er hynny, roeddem dal yn cael dod a losin a roeddem yn cael rhannu, dim ond os oedd y losin gyda rhywbeth fel deunydd lapio o’i amgylch. Cawsom lawer o hwyl yr un fath!”

Bocsys T4U

“Er ein bod yng nghanol pandemig, roeddem ni fel plant Brynaerau yn meddwl ei bod hi’n bwysicach nag erioed i roi anrhegion i blant bach fel plant tlawd Romania eleni; plant llai ffodus na ni a rhai di-gartre sydd ddim yn gallu teimlo yn ddiogel mewn cartrefi fel ni, yng nghanol hyn. Llwyddom i gasglu 45 bocs ac aethom â’r bocsys at y fan yn ddiogel fesul bybyl i gychwyn ar eu taith dramor. Gobeithio wir fod ein bocsys wedi codi calon plant bach Romania.”

Sioe Nadolig

“Fel arfer, rydym yn cynnal ein Sioe Nadolig yng Nghapel Brynaerau, ond eleni nid oedd posib dod â phawb at ei gilydd gan fod rhaid aros yn ein swigod a chadw pellter. Oherwydd hyn roedd rhaid ffilmio y Sioe Nadolig yn Neuadd yr ysgol; Roedd yn rhyfedd iawn yn enwedig gan nad oedd Mam a Dad yn cael dod i’n gweld ni. Roedd pob un dosbarth mewn golygfa wahanol gan nad ydym yn cael cymysgu bybls. Gyda’r caneuon, roedd rhaid canu ar wahan ac yna golygu pawb at ei gilydd fel ei fod yn edrych ac yn swnio fel ein bod yn canu ‘efo’n gilydd’. Cawsom sgrin werdd anferthol ar draws y wal yn y Neuadd a gwneud iddo edrych fel ein bod yn y llefydd yno go wir e.e. yn y Stabl ym Methlehem, mewn eira, yn y Pentref a llawer mwy. Fe recordiodd Miss Owen y Sioe ac yna ei roi at ei gilydd. Mae Miss Owen yn dda am roi y Sioe at ei gilydd a’i rannu ar Google Classroom er mwyn i Mam a Dad gael ei weld. Cawsom hwyl yn ei wylio yn ein tŷ ni. Roedd yn hwyl recordio y Sioe Nadolig oherwydd roeddem yn cael newid lot o ddillad. Peth arall oeddwn i’n hoffi oedd ein bod ni’n cael cymryd ein amser i ffilimio fo. Cawsom lawer o hwyl yn recordio!”

Cinio Cyfeillion

“Un o’r pethau oedd rhaid ei newid oherwydd y pandemig oedd trefniadau Cinio Nadolig blynyddol Cyfeillion Brynaerau. Y tro yma penderfynodd yr ysgol gynnig Cinio Nadolig têc awe. Roedd y pecynnau yn cynnwys cinio traddodiadol megis twrci, pwdin blasus a mins pei. Bu Anti Ner yn hynod brysur yn paratoi’r pecynnau. Gwnaethpwyd 60 o becynnau blasus ac roedd pawb wedi mwynhau. Roedd hyn yn ffordd dda o godi arian i’r ysgol hefyd.”

Bocsys Nadolig

“Yn amlwg, nid oedd posib cynnal Ffair Nadolig eleni, er hynny, roeddem ni yn nosbarth Miss Owen, eisiau gwneud ychydig o arian i’r ysgol gan nad oedd Ffair. Penderfynom fynd ati i greu bocsys Noswyl Nadolig fel rhan o brosiect Mentergarwch. Roedd posib cael enw ar flaen y bocs ac roedd y bocs yn llawn nwyddau hyfryd fel offer crefft, siocled poeth, siocled, bisged, bwyd i’r ceirw, mins pei i Sion Corn, gwydr Nadoligaidd a llawer mwy. Llwyddom i wneud elw o £360 ar gyfer yr Ysgol wrth werthu y bocsys. Diolch i bawb a brynodd focs.”

Cinio Nadolig

“A bod yn hollol onest, rydym yn lwcus iawn ein bod wedi wedi cael Cinio Nadolig o gwbl yn yr ysgol eleni!! Roedd y Cinio Nadolig wedi ei drefnu at y dydd Iau cyn cau ond gan fod yr ysgolion wedi cael gwybod ein bod yn cau ynghynt, roedd rhaid newid yr holl drefniadau. DIOLCH BYTH ein bod wedi cael cinio Nadolig blasus Anti Ner unwaith eto eleni. Roedd pawb yn bwyta yn eu dosbarthiadau ac roedd pawb wedi creu coron Nadoligaidd. Diolch Anti Ner am y bwyd blasus.”

Parti Nadolig a Groto Sion Corn mewn fan

“Y flwyddyn yma, oherwydd cofid, nid oedd posib cael parti Nadolig cyffredin, felly penderfynnodd yr ysgol gael parti Nadolig yn ein swigod! Roeddwn yn teimlo yn drist oherwydd nid oeddem yn cael bod efo’n gilydd fel un ysgol ond yn hapus gan ein bod yn cael PARTI. Dechreuodd y parti gyda chwarae gemau parti ac wedyn cawsom fwyd blasus. Cawson chwarae gemau fel “Musical statues”, “musical bumps” a “musical chairs”. Fy hoff beth i am y bwyd oedd y gacen siocled. Iym!! Ar ôl dipyn, daeth Miss Owen atom a dweud fod yna sypreis tu allan; edrychodd pawb trwy y ffenest a gweld fan fawr wen!!! Doedd neb yn gallu meddwl beth oedd yn y fan! Aethom at y drws ffrynt a gweld SION CORN!!! Ia wir! Roedd Sion Corn wedi dod draw i Ysgol Brynaerau mewn fan!!! Gwelais tu fewn i’r fan ac roedd yna blu eira yn hongian oddi ar y to ac ar y waliau hefyd, glitters ar y llawr ac eira hefyd! Roedd hyd yn oed lle tân yn y fan!! Cawsom gyfle fesul un i gyfarfod gyda fo a hynny mewn ffordd ddiogel gan aros tu allan i’r fan o dan y gazeebo tra roedd Sion Corn 2 fedr i ffwrdd tu mewn i’r fan. Gofynnodd Sion Corn beth oeddem eisiau yn anrheg Noswyl Nadolig a chawsom anrheg bach ganddo i aros. Roedd pawb yn teimlo yn hapus iawn. Wedyn aethom yn ôl i’r dosbarth i gario ymlaen gyda’r parti. Cawsom amser arbennig.”

Dysgu adref unwaith eto

“Oherwydd cyfnod clo ARALL rwyf yn dysgu o adra UNWAITH ETO! Y tro yma mae’r athrawon yn dysgu y dosbarthiadau trwy Google Classroom a Meets. Dwi’n mwynhau gweld fy ffrindiau o fy nosbarth ar y cyfrifiadur ond yn colli cael mynd i’r Ysgol i ddysgu a chwarae hefo fy ffrindiau. Mae’n anodd gwneud gwaith Ysgol o adref – mae Mam a Dad yn fy helpu ond mae Ted y ci yn bwyta fy ngwaith Ysgol yn aml!! Dwi’n edrych ymlaen i gael mynd yn ôl i’r Ysgol pan fydd hi’n ddiogel.”