System graddio eleni yn “teimlo fel cosb” medd disgybl o Ysgol Dyffryn Nantlle

Mae ’na bobol yn dibynnu ar y graddau yma ar gyfer eu dyfodol nhw”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Lleucu Non

Mae Lleucu Non, disgybl o Ysgol Dyffryn Nantlle, wedi dweud fod y system graddio sy’n cael ei ddefnyddio eleni yn “teimlo fel cosb”.

Bydd myfyrwyr Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yng Nghymru’n derbyn eu canlyniadau ar Awst 13, tra bydd myfyrwyr TGAU yn eu derbyn ar Awst 20.

Cafodd arholiadau eleni eu canslo wrth i ysgolion ledled Cymru orfod cau yn sgil pandemig y coronafeirws.

Dywed Rebecca Williams, is-Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, fod “y system orau bosib o dan yr amgylchiadau” yn cael ei defnyddio i benderfynu ar raddau i ddisgyblion ysgol.

Bydd canlyniadau blaenorol disgyblion yn ogystal â pherfformiad yr ysgol dros y tair blynedd diwethaf yn rhai o’r ffactorau fydd yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar raddau.

Roedd Lleucu Non yn astudio Cymraeg, Saesneg a Hanes yn Ysgol Dyffryn Nantlle a bydd yn cael gwybod pa raddau mae hi wedi eu derbyn ddydd Iau (Awst 13).

“Dw i wedi siarad efo ffrindiau sydd gen i o’r un flwyddyn ac rydan ni gyd yn eithaf blin,” meddai.

“Rydan ni wedi gweithio’n galed dros y flwyddyn ddiwethaf a does dim bai ar neb am y feirws, felly mae’r system yn teimlo fel cosb.

“Dw i heb gael y cyfle i brofi mod i’n gallu cyrraedd y graddau Uwch Gyfrannol ges i a hyd yn oed gwneud yn well.

“Dyw’r flwyddyn hon heb fod yn gyffredin mewn unrhyw synnwyr o’r gair, a dw i heb gael cyfle i brofi fy hun mewn arholiad, felly os ydi’n raddau i’n gostwng oherwydd mai dyna mae’r system yn feddwl sydd orau, dw i ddim yn meddwl bod hynna’n deg.

“Mae ’na bobol yn dibynnu ar y graddau yma ar gyfer eu dyfodol nhw.”