Dechrau’r flwyddyn fe ddechreuais redeg i drio cadw yn heini. Dwi wedi dod yn hoff iawn o redeg ac mae wedi bod yn lot o help yn ystod y cyfnod anodd yma. Mae’r pandemic wedi dangos pam faint mae pobl yn dibynnu ar ei gilydd, a pam mor anhygoel mae bywyd yn gallu bod pan mae pawb yn dod at ei gilydd i helpu eraill. Mae yna lawer o anghyfiawnder yn y byd; ond dim ond drwy gymryd camau bach mae’n bosib ei drechu (fatha marathon really, ond bod o lot mwy ac yn brifo eich coesau llai). Dwi’n gobeithio bydd rhedeg y marathon yma, a chodi arian i GISDA, yn gam bach fydd yn gallu gwneud y byd yn lle gwell. Diolch o galon i Lleucu Non hefyd am godi arian i ‘The Little Princess Trust’ a dangos be sy’n bosib gwneud wrth gefnogi elusennau anhygoel.
Dwi’n gobeithio rhyw ddydd fydda ni’n gallu byw mewn byd heb ddigartrefedd. Dwi’n gobeithio bydd yna ddyfodol lle fydd ein plant a phobl ifanc yn synnu ein bod ni wedi gallu parhau i fyw mewn cymdeithas lle roeddem yn pasio pobl yn cysgu ar y stryd yn rheolaidd. Dwi’n gobeithio bydd rhedeg y marathon yma yn gallu cefnogi’r gwaith anhygoel mae GISDA yn wneud yn barod yn cynnig lloches a chefnogaeth i bobl ifanc digartref yr ardal.
Mae hi’n bosib cyfrannu drwy y dudalen facebook yma: