Merch o Ddyffryn Nantlle yn profi tanau gwyllt Awstralia

Sara Jones, sydd bellach yn byw yn Melbourne, yn trafod ei phrofiad o’r tanau yn Awstralia.

Guto Jones
gan Guto Jones

Derbyniwyd y darn yma gan Sara Jones, sydd yn wreiddiol o Ros Isaf. Mae Sara bellach yn byw allan yn Melbourne, ac yn rhoi blas ar ei phrofiad hi o’r tanau.

 

‘Symudais nôl i Awstralia, (ar ôl 2 gyfnod blaenorol yn y wlad) ym Mis Medi. Er bod tanau gwyllt yn rhywbeth sydd yn digwydd yn flynyddol yn y wlad, mae’r rhain yn wahanol iawn.

 

 

Cychwynnodd y tanau yma ym mis Hydref. Fel arfer, di’r tanau ddim yn cychwyn tan yr Haf, felly roedd y rhain dau fis yn gynnar, ac ar raddfa lot mwy. Sychder di un o’r prif broblemau am hyn, gan fod hi wedi bwrw dipyn llai na’r arfer yn yr ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf (New South Wales a North Victoria)

 

Yn bersonol, dwi heb gael fy effeithio llawer gan y tanau. Dwi’n byw yn y ddinas, yn Melbourne, felly’r effaith mwyaf arna i ydi’r mwg. Mae’r awyr yn ddu ambell i ddiwrnod, a pobol yn teimlo’n fyglyd. Cafodd effaith y mwg yn Melbourne ei amlygu wythnos yma, yn yr ‘Australian Open’. Bu’n rhaid i un chwaraewr tennis rhoi gora iddi yn ganol gêm, gan fod ansawdd yr aer mor wael.

 

Yn amlwg, ma’i lot gwaeth i’r rheini sydd allan yn y wlad, ac yn gweithio yn yr ardaloedd gwledig. ‘Roedd un o fy ffrindiau, o Gaernarfon, yn gweithio ar ffarm yn ‘New South Wales’ cyn y Nadolig. Udodd o fod o prin yn gallu gweld yr awyr, ac yn derbyn negeseuon testun yn dweud wrtho chwilio am loches. Yn yr ardaloedd yma, mae ‘na lawer wedi colli popeth, a rhai wedi colli ei bywyd. Mae’r effaith ar yr anifeiliaid a’r bywyd gwyllt yng nghefn gwlad Awstralia wedi bod yn erchyll hefyd, gyda niferoedd anferthol o anifeiliaid wedi marw.

Yn gyffredinol, mae pobol y wlad yn flin, gan fod y llywodraeth wedi cymryd gymaint o amser i ddechrau ymateb. Mae lot o’r dynion tan yn gweithio’n wirfoddol, a di’r prif weinidog heb fod yn eu cefnogi o gwbl. Erbyn wan, pobol enwog sy’n gwneud y gwaith mwyaf o godi ymwybyddiaeth, ac o godi arian. Mae ‘na lwyth o siopau a thafarndai yn cymryd rhoddion hefyd. Ac er gwaetha diffyg ymateb y llywodraeth, mae pobol y wlad i’w weld yn cyd-dynnu, ac yn fwy na parod i helpu ei gilydd. Ond, yn anffodus, da ni mond tua hanner ffordd trwy dymor y tannau, felly all pethau fynd yn waeth, cyn dechrau gwella.’