Lleucu Non wedi cael modd i fyw gyda chynllun ‘Byw a Bod’

Ail-lansio’r Clwb Drama wedi bod yn uchafbwynt i’r ferch o’r Dyffryn

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae criw o bobol ifanc yn Nyffryn Nantlle, wedi bod yn gweithio’n ddiwyd yn ein cymuned fel rhan o gynllun wyth wythnos ‘Byw a Bod yn y Gymuned’.

Mae’r cynllun, sydd wedi ei ariannu gan Arloesi Gwynedd Wledig, wedi darparu cyfleodd gwaith i bobol ifanc mewn cymunedau ar draws y sir.

Y bwriad, oedd darparu cyfle i bobl ifanc leol fynd ati i adnabod a dod o hyd i ddatrysiadau i broblemau sy’n benodol i’w cymuned.

Mae’r cynllun wedi bod yn rhedeg ers mis Awst ac wedi dod i ben yr wythnos hon.

“Ddoth o i’n sylw ni yn fuan iawn yn ystod y cyfnod clo bod ‘na bryder mawr allan yna i bobl ifanc o ran diffyg cael gwaith, felly bwriad ‘Byw a Bod yn y Gymuned’, oedd gosod pobl ifanc hefo mentrau cymdeithasol, i adnabod yr heriau yn eu cymunedau a gweithredu i ffeindio datrysiad,” meddai Rhian Hughes, Uwch Swyddog Prosiect Arloesi Gwynedd Wledig.

Profiadau Lleucu Non

Un o gyfranogwyr ifanc y prosiect yn Nyffryn Nantlle yw Lleucu Non, sydd wedi bod yn brysur yn ail-lansio’r clwb drama leol.

“Mi o’dd ‘na dri ohona ni’n gweithio ac mi o’n i’n gyfrifol am ail-lansio’r clwb drama, roedd Osian yn gyfrifol am yr ochr gerddorol, mae o wedi bod yn sefydlu gweithdai cerddorol, ac mae Gruff wedi bod yn gwneud ymchwil cymunedol i ffeindio allan be mae pobl Dyffryn Nantlle isio.”

Yn ôl Lleucu, mae’r prosiect wedi bod yn gyfle iddi ddatblygu sgiliau newydd ac ehangu­ ar ei dealltwriaeth o’r hyn mae menter gymdeithasol a gwaith datblygu cymunedol yn ei olygu.

“Y sgil fwyaf ‘swn i’n deud mod i wedi dysgu oedd i fod yn arloesol a dwi wedi dysgu i fod yn berson mwy amyneddgar,” meddai.

“Dwi hefyd wedi sylwi pa mor bwysig ydi gweithgareddau cymunedol a pha mor bwysig ydi bod cymunedau yn sefyll ar eu traed eu hunain, yn lle bo’ ni’n disgwyl i fentrau neu fusnesau mawr ddod i mewn i gynnal yr economi.

“Mae mentrau lleol, annibynnol, os wbath, yn bwysicach i gynnal hunaniaeth Gymraeg.”

Ehangu’r cynllun i weddill Cymru

Wrth drafod a oes unrhyw gynlluniau i ddatblygu’r cynllun ar gyfer gweddill Cymru, dywed Rhian Hughes o Arloesi Gwynedd Wledig mai “pwrpas y rhaglen ydi bod partneriaethau eraill a mentrau cymdeithasol yn edrych ar fodel Byw a Bod ni, a’i ddefnyddio fo a’i ail fodelu fo gan ddysgu o be’ ‘dan wedi’i wneud”.

“Mi yda ni’n annog cymunedau eraill yng Nghymru i fod yn edrych ar wneud hynny.”