Grant o £30,000 yn rhoi hwb i ymdrechion cymunedol ym Mhenygroes

Mae Siop Griffiths wedi derbyn grant o £29,916 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Siop Griffiths, Penygroes

Mae Siop Griffiths ym Mhenygroes wedi derbyn grant o £29,916 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Bydd y grant yn golygu y gall 50 o wirfoddolwyr barhau i gefnogi bron i 100 o bobl fregus, gan helpu i ateb y galw cynyddol wrth i’r gymuned wynebu heriau economaidd newydd o ganlyniad i’r pandemig.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol” meddai Ben Gregory, ysgrifennydd y fenter gymunedol.

“Bydd yr arian hwn yn ein galluogi i gefnogi ein cymunedau ymhellach a chyflogi swyddog datblygu llawn amser a chogydd rhan-amser am chwe mis i ddatblygu ymateb y gymuned.”

Fel nifer o sefydliadau mae’r Fenter Gymunedol  wedi gorfod addasu yn sylweddol oherwydd Covid-19.

Eglurodd Greta Jams, Swyddog Datblygu a Marchnata, Yr Orsaf bod yr ymateb “wedi bod yn anhygoel” a diolchodd i’r 50 o wirfoddolwyr lleol am ei gwaith caled wrth iddi hi a’i chydweithwyr addasu nifer o gynlluniau er budd y gymuned leol.

Wrth i bob dim o gigs i glybiau gwau yn Yr Orsaf gael eu gohirio mae’r fenter bellach wedi bod yn gyfrifol am gydlynu grŵp cymunedol o wirfoddolwyr yn yr ardal.

Bydd y grant gan y Loteri Genedlaethol hefyd yn ariannu partneriaeth rhwng Siop Griffiths, Caffi’r Orsaf, a’r Co-Op i ddefnyddio gwastraff bwyd o’r archfarchnad i wneud 50 pryd y dydd am bum diwrnod yr wythnos, ac i ddosbarthu bagiau bwyd.

Yn yr hir dymor y gobaith yw y bydd yr arian yn helpu i ddatblygu prosiect tyfu bwyd, trwy greu rhandiroedd, gardd wyllt gymunedol ac ardal ddysgu awyr agored.

“Cydweithio i ddarparu ymateb cumunedol i Covid-19”

Dywedodd Ruth Bates, Pennaeth rhanbarth Gogledd Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fod y dull hwn o’r gymuned yn arwain yn enghraifft wych o sut mae gwirfoddolwyr sy’n cydweithio i ddarparu ymateb cymunedol i COVID-19 yn helpu’r rheini sydd ei angen fwyaf.

“Diolch i’r rhai sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol am ei gwneud hi’n bosibl ariannu prosiectau fel hyn sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cymaint o bobl ym Mhenygroes.”

Dros 50 o wirfoddolwyr yn hwb i gynlluniau’r dyfodol

Gohebydd Golwg360

Oherwydd Covid-19 mae Yr Orsaf wedi addasu a newid cynlluniau er budd pobol y dyffryn.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.