Nos Iau, Chwefror 13eg.
Braf oedd gweld Neuadd Bentref Llanllyfni’n orlawn gyda disgyblion a’u rhieni yn mwynhau’r holl gystadlu. Mae’n bwysig cadw’r traddodiad yn fyw yn y pentref ac yn sicr roedd plant a phobl Llanllyfni wedi gwneud yr ymdrech i sicrhau hyn.
Bu cystadlu o safon i’w weld ar lwyfan y neuadd drwy’r nos. Ar adegau, roedd y beirniaid; Nesta Jones, Bethan Lloyd ac Angharad Jones yn gorfod rhannu’r gwobrau 1af, 2il a 3ydd.
Cliciwch yma i gael Cipolwg o’r cystadlu
Cystadlaethau:
Meithrin: Mi welais Jac y Do, Fi di’r Dinosor
Derbyn: Fi di’r Dinosor, Daniel y Dinosor.
Bl 1 a 2: Mynd ar Wyliau, Mae Rhywbeth Mawr yn Dod.
Bl 3 a 4: Rhyfeddodau , Y Cipio.
Bl 5 a 6: Yma o Hyd, Lloeren.
Pawb: Unawd offerynnol
Diolch i holl bwyllgor yr Eisteddfod am drefnu noson fendigedig, i’r beirniaid a chyfeilydd am eu gwaith arbennig. Diolch i Lana a Nia, cyn-ddisgyblion Ysgol Llanllyfni am ddod i rannu’r rhubanau. Ond yn bwysicach na dim, diolch i blant yr ysgol am ddod i gystadlu a sicrhau bod y noson yn llwyddiant.