Cynhaliwyd sesiwn agored yr eisteddfod nos Sadwrn 22 Chwefror a chawsom eisteddfod lwyddiannus a safonol iawn. Y beirniad cerdd oedd Nia Efans, Talwrn, Ynys Môn, y beirniad llefaru oedd Bethan Lloyd Dobson Panglas a’r Prifardd Rhys Iorwerth, Caernarfon oedd beiriniad y cynnyrch llenyddol. Angharad Wyn Jones, Dolydd fu’n brysur yn cyfeilio i bawb. Yn arwain ar y noson oedd Alma Jones Davies, O P Huws ac Alun Ffred Jones.
Enillydd y Gadair agored oedd Richard Llwyd Jones, Bethel, Caernarfon am awdl ar y testun Afon. Enillydd Cadair yr ifanc oedd Siwan Prys Owen Llecheiddior Ganol, Bryncir. Am ei gwaith, dywedodd y beirniad ei fod ‘yn gyforiog o linellau cofiadwy a phethau bach, sylwgar iawn sy’n dangos bod yma sgwennwr o’r iawn ryw’.
Y perfformiwr mwyaf addawol ym marn y beirniaid oedd Tegid Goodman Jones o Gaerwys am ei berfformiadau safonol amrywiol ac yn ennill £50 wedi’i roi gan garej Arwyn Penygroes.
Dyma’r canlyniadau:
Unawd dan 15 oed: 1af: Leisa Mair Lloyd-Edwards Y Groeslon 2il: Martha Evans Llanllyfni a Gweno Owen Penygroes 3ydd: Gwenllian Perkins Llanllyfni a Beca Morris Bethel
|
Unawd 15 – 21: 1af: Tegid Goodman Jones Caerwys a Sion Dafydd Edwards Llanrwst |
Deuawd: 1af: Lois a Cadi Glanrafon Corwen 2il: Anni Evans a Tesni Jones Penygroes
|
Prif Unawd: 1af: Tegid Goodman Jones Caerwys
|
Unawd Gymraeg:1af: Tegid Goodman Jones Caerwys 2il: Sion Dafydd Edwards Llanrwst 3ydd: Beca Fflur Morris Bethel
|
Unawd Cerdd Dant: 1af: Enlli Pugh Jones, Penygroes 2il: Fflur Davies Rhostryfan a Sion Dafydd Edwards Llanrwst 3ydd: Erin Llwyd Glanrafon Corwen
|
Cân Werin: 1af: Enlli Pugh Jones Penygroes 2il: Robert John Jones Biwmares 3ydd: Sion Dafydd Edwards Llanrwst
|
Cân allan o Sioe Gerdd: 1af: Fflur Davies Rhostryfan 2il: Enlli Pugh Jones Penygroes 3ydd: Tegid Goodman Jones Caerwys 4ydd: Sion Dafydd Edwards Llanrwst 5ed: Beca Fflur Morris Bethel, Caernarfon.
|
Canu Emyn dros 50: 1af: Morwenna Roberts Caernarfon
|
Parti Canu hyd at 12 mewn nifer: 1af: Parti Llan, Llanllyfni |
Unawd Offerynnol: 1af: Huw Evans, Saron, Caernarfon 2il: Beca Morris Bethel ac Anni Evans Llanllyfni 3ydd: Gwilym Evans Saron, Caernarfon
|
Ensemble Offernnol: 1af: Genod Lleu, Penygroes
|
Cyfansoddi darn o gerddoriaeth: 1af: Erin Aled, Llanuwchllyn
|
LLEFARU
Dan 15 oed: 1af: Cadi Fflur Glanrafon, Corwen 2il: Elin Jên Griffith Carmel 3ydd: Elan Williams Talysarn a Gwenllian Perkins Llanllyfni |
15 – 21 oed: 1af: Sion Dafydd Edwards Llanrwst
|
Y Prif Adroddiad: 1af: Rhys Jones Corwen
|
Cystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru: perfformio darn digri 1af: Rhys Jones Corwen |
LLENYDDIAETH
Rhyddiaith Bl. 7, 8 a 9: 1af: Efa Hodge Ysgol Botwnnog 2il: Elan Owen Ysgol Botwnnog a Tesni Jones Ysgol Dyffryn Nantlle
|
Rhyddiaith Bl. 10 – 13: 1af Lowri Elen Bebb Caernarfon 2il: Gwenno Robinson Abertawe
|
Rhyddiaith dan 25 oed: 1af: Siwan Prys Owen Bryncir 2il: Erin Aled, Llanuwchllyn
|
Barddoniaeth Bl. 7, 8 a 9: 1af: Enlli Thompson Ysgol Dyffryn Nantlle 2il: Anni Evans Ysgol Dyffryn Nantlle 3ydd: Elin Jên Ysgol Dyffryn Nantlle
|
Barddoniaeth Bl. 10 – 13: 1af: Gwenno Robinson Porth Einon Abertawe 2il: Aron Evans Ysgol Dyffryn Nantlle
|
Englyn: 1af ac 2il: John Ffrancon Griffith Abergele
|
Englyn Crafog: 1af: Hilma Lloyd Edwards, Bontnewydd 2il: John Owen Jones Padog Betws y Coed
|
Gorffen Limrig: 1af: Megan Richards Aberaeron
|
Stori Fer: 1af: Siân Teifi, Llanfaglan Caernarfon 2il: Megan Richards Aberaeron
|
Cerdd gaeth neu rydd: 1af: Richard Llwyd Jones Bethel Caernarfon 2il: Carys Briddon Tre’r Ddôl Ceredigion
|