“Nid dyma ddiwedd y mater”, meddai Hywel Williams a Siân Gwenllian

Mae disgwyl i ffatri Northwood Hygine Products ym Mhenygroes gau erbyn yr Hydref.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Hedydd Ioan

Yn dilyn y cyhoeddiad gan Undeb Unite heddiw bod disgwyl i ffatri bapur Penygroes gau erbyn yr Hydref mae Hywel Williams AS, a Siân Gwenllian AS, wedi dweud mai “nid dyma ddiwedd y mater”:

“Mae hyn yn newyddion siomedig iawn ac yn ergyd gwirioneddol i’r ymdrechion i ddiogelu’r naw deg pedwar o swyddi lleol”, meddai’r gwleidyddion mewn datganiad ar y cyd.

“Mae cryn dipyn o waith lobïo wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r llenni i sicrhau cefnogaeth ar draws pob lefel o lywodraeth i geisio amddiffyn y gweithlu medrus ym Mhenygroes ar adeg pan na all yr economi leol fforddio ergyd mor sylweddol.

“Byddwn yn cysylltu ar frys â Llywodraeth Cymru i archwilio pa opsiynau a chefnogaeth hirdymor amgen sydd ar gael a byddem yn annog Northwood i barhau â’r ymgysylltu.

“Mae bywoliaeth pobol yn y fantol.”

94 o bobol yn colli eu swyddi 

Daeth cyhoeddiad ar Fai 26 y byddai ffatri Northwood Hygine Products yn Nyffryn Nantlle, sy’n cyflogi 94 o bobol, yn cau o ganlyniad i gwymp sylweddol mewn gwerthiant yn sgil y coronafeirws.

Er i 2,000 o bobol arwyddo deiseb yn galw ar y cwmni i ailystyried, ac i gymuned Dyffryn Nantlle gynnal protest i ddangos eu cefnogaeth i weithwyr, daeth cadarnhad heddiw (Goffennaf 2) bod ymdrech yr undeb i achub y swyddi yn y ffatri yng Ngwynedd wedi bod yn aflwyddiannus.

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Unite bod disgwyl i’r cwmni sydd â ffatrïoedd yn Telford, Oldham, Birmingham, Lancaster a Bromsgrove gau’r ffatri ym Mhenygroes erbyn yr Hydref.

Ni fydd y ffatrïoedd yn Lloegr yn cau.