Dylan Williams yn symud yn ei flaen-CPD Nantlle Vale

CPD Nantlle Vale

Begw Elain
gan Begw Elain

⚪️Dylan Williams yn gadael y clwb🔵

 

Yn dilyn y cyfnod hyfforddi gyda’r ail-dim yn Vale mae Dyl wedi penderfynu rhoi cynnig arni i chwarae eto tra dal yn ifanc.

 

Dylan yn gyn capten i’r clwb, sydd wedi rhoi blynyddoedd o berfformiadau cadarn i’r Fêl💙

 

Roedd Dyl yn allweddol i lwyddiant tîm Craig a Sgipar a lwyddodd cael ei dyrchafu o’r ‘Welsh Alliance 2’ i’r ‘Welsh Alliance 1.’ Mae hefyd wedi sgorio ambell i gic rydd wych gyda’i droed chwith dros y blynyddoedd.⚽️

 

⬇️Gair gan Dan⬇️

 

“Biti i weld ffrind a rhan fawr o’r clwb dros y blynyddoedd diwethaf yn symud ‘mlaen. Ond gweld dim bai ar Dyl yn mynd nôl i chwarae tra mae o dal yn gallu, gyrfa pêl-droed yn un byr sydd angen ei fwynhau.Dwi’n dymuno pob lwc iddo, mae Penrhyn yn cael chwip o chwaraewr a chymeriad sydd yn allweddol i unrhyw dîm. Diolch Dyl. “

 

Pob lwc am y tymor Dylan,edrych ‘mlaen i dy weld fel cefnogwr ym Maes Dulyn tymor yma.⚽️

 

#cmonyfêl

Dweud eich dweud