‘Y Dyff’

Cyhoeddi Papur Newydd Ysgol Dyffryn Nantlle.

Er ei bod hi wedi bod yn hanner tymor ddigon gwahanol rhwng yr holl reolau Covid newydd, mae’n hawdd gweld fod blwyddyn 7 wedi setlo’n iawn yn Ysgol Dyffryn Nantlle. A dweud y gwir, mae nhw wedi dechrau torri eu cwys eu hunain drwy fynd ati i greu papur newydd i’r ysgol. 

‘Y Dyff’ yw enw’r papur, ac fe brofodd y rhifyn cyntaf yn boblogaidd iawn yn yr ysgol! Yn ogystal, daeth un o gyn-ddisgyblion yr ysgol, Gerallt Pennant, draw i gyfweld y plant ar gyfer rhaglen ‘Heno’ a’u llongyfarch ar eu llwyddiant. Gellir gwylio’r clip yma (o 14 munud ymlaen):

https://www.s4c.cymru/clic/programme/807472761

Y gobaith yw cyhoeddi papur newydd pob hanner tymor, ac mae’r golygyddion eisoes yn brysur yn hel straeon at rifyn y Nadolig.

Mae croeso i fusnesau lleol gysylltu os hoffent hysbysebu yn y papur.