Tan y Cloi Mawr, roedd Clwb Gweu a Chrosio Yr Orsaf yn cwrdd am awr yn y caffi bob bore Mawrth. Diolch i Greta am ddod a phobl at ei gilydd. Dros baned, roeddem yn cael gweld beth oedd gweddill y grŵp wedi bod yn ei weu neu ei grosio, ac roedd yn dda cael cyfnewid syniadau a phatrymau.
Pan stopiodd y clwb ganol Mawrth, fel popeth arall, aeth pawb i’w gartref a dal ati i weu efo hynny o ddafedd oedd ganddynt. Yr ofn mawr oedd gweld y dafedd yn dod i ben.
Mae gweu a chrosio yn ffordd dda iawn o gadw rhywun yn brysur.
Cysylltodd Greta a newyddion da – unrhyw un sydd heb ragor o wlân, mae modd ei archebu o’r Siop Wlân yn Stryd y Plas, Caernarfon. Dim ond i chi godi’r ffon neu anfon neges at Anna, a chewch wasanaeth personol heb ei ail. Neu os yw’n well gennych archebu ar-lein, dyma’r e-bost: ylpshop16@gmail.com
Y rhif ffon yw 01286 678230