Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a’r Cyffiniau 2005
Yn 2005 roedd yr Eisteddfod Genedlaethol ar stepen ein drws yn y Faenol, a’r tair ohonom, Miriam, Ffion a finnau yn 25ain oed, dyma benderfynu mae hwn fyddai ein ’Steddfod gyntaf ar y maes carafanau yn hytrach ‘na gwersylla yn Maes B! Felly dyma fynd ati i archebu lle ar y maes. Adeg hynny, toedd pob safle ddim yn dod hefo trydan ond doedd hynny ddim yn broblem. Y broblem oedd nad oedd yr un o’r tair ohonom yn berchen ar garafán, ac i ddweud y gwir, doedd yr un o’r tair ohonom yn gwybod dim am garafanio!
Ond, ar ôl holi am rai wythnosau, mi gawsom addewid o gael benthyg carafán gan rieni ffrind a dyma fynd i’w gweld er mwyn iddynt gael cyfle i ddangos i mi sut oedd pob dim yn gweithio. Dyma drefnu eu bod nhw yn mynd a hi draw i’r Faenol ar ein cyfer.
Dyma gyrraedd y maes carafanau brynhawn dydd Sul, a’r garafán yno yn disgwyl amdanom, ond erbyn hyn roedd pob cyfarwyddyd ar be i wneud wedi hen fynd yn angof! Dyma benderfynu mai’r peth callaf fi wneud byddai dim ond ei defnyddio i gysgu. Dim defnyddio’r toilet gan nad oedd ganddom glem sut i fynd at i’w wagio! Ac felly y bu hi. Gorfod cerdded ar draws cae i fynd i toilet am 3 o’r gloch y bora, defnyddio cyfleusterau’r maes carafanau i ymolchi a chael cawod, a phicio adra ganol yr wythnos i gael cawod iawn! Prynu bwyd nad oedd angen ei goginio o’r siop Spar a chael brecwast wedi ei goginio o garafán fwyd ar y maes carfannau.
Mi gawsom ni andros o lot o hwyl wythnos honno, er bod mi mewn tywyllwch erbyn nos Wener gan fod y batris wedi rhedeg allan! Eistedd yn y bar am ran helaeth o’r dydd, cyfarfod ffrindiau coleg, mynd i Gaernarfon i gigs Cymdeithas yr Iaith bron pob nos, a Bryn Fôn yn cloi Maes B ar y nos Sadwrn.
Mae’n rhaid bod y profiad wedi cael argraff arna i gan i mi brynu carafán ein hunain rhai blynyddoedd wedyn, ac wedi bod yn carafanio yn yr Eisteddfod ers blynyddoedd bellach. Dwi’n falch fod pob safle yn dod hefo trydan erbyn hyn, a do, dwi wedi dysgu sut i wagio’r toilet, ond mi fyddai’n cadw’r joban honno i Dyfan y gŵr!