Her yr Ewros, Côr Rhithiol a Nosweithiau Zoom dyma rai o’r pethau y mae aelodau o’r Clwb wedi bod yn eu gwneud yn ystod yr wythnosau diwethaf i gadw’n brysur.
Gyda phencampwriaeth yr Ewros i fod i gychwyn ar 12 Mehefin a pharhau hyd nes 12 Gorffennaf, penderfynodd Ffermwyr Ifanc Eryri ymgymryd â her i nodi’r achlysur. Fel Sir, rydym wedi herio aelodau a chyfeillion y Mudiad i gerdded, rhedeg neu feicio cyfanswm o 5,557.1 o filltiroedd. Pam hynny medda chi? Wel, dyna gyfanswm y milltiroedd y byddai rhaid teithio o Swyddfa’r Sir yng Nghaernarfon i Bern – Prif ddinas Y Swistir, Anakara – Prif ddinas Twrci a Rhufain – Prif ddinas Yr Eidal. Pam y gwledydd rheini? Wel dyna’r dair gwlad oedd Cymru i fod i’w hwynebu ym mhencampwriaeth yr Ewros.
Ein gobaith drwy ymgymryd â’r her yw i godi arian tuag at y Sir a Sefydliad y DPJ – dwy elusen sydd yn gwneud gwaith amhrisiadwy o fewn y diwydiant amaeth a dwy elusen sydd yn agos iawn at galonnau aelodau’r Clwb. Gallwch gyfrannu tuag at ein her drwy ddilyn y ddolen yma.
Yn ogystal â’r her, mae rhai o aelodau o Gôr y Sir wedi recordio fersiwn rithiol o glasur Caryl Parry Jones – Gorwedd gyda’i Nerth. Diolch i Gronw Ifan, Mirain Glyn ac Elin Angharad Davies am eu holl waith wrth roi’r côr hwn at ei gilydd ac i Anni a Catrin am gynrychioli’r Clwb. Gallwch wrando ar y Côr drwy ddilyn y ddolen yma.
Mae misoedd bellach ers i ni gael noson Clwb a ninnau ddim callach pryd y cawn ail gychwyn nosweithiau Clwb felly, rydym wedi penderfynu ail gychwyn ein nosweithiau Clwb a hynny bob pythefnos dros gyfrwng Zoom. Cawsom ein noson gyntaf yr wythnos diwethaf gyda Chwis dan ofal Sian ein Arweinyddes. Diolch i Sian am fod yn gwis feistr a llongyfarchiadau mawr i Glesni am ddod yn fuddugol. Yr wythnos nesaf, rydym am gael gêm o Bingo ac mae sawl syniad arall ar y gweill.
Digon i’n cadw ni yn brysur am y tro felly!