Boreau coffi awyr agored, cerddoriaeth fyw a sesiynau yoga: popeth sy’n dda am Poblado

Cwmni coffi Poblado yw’r cyntaf i ymddangos ar bodlediad Blas o’r Bröydd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

O’i gwt yn waelod yr ardd, fe aeth Steffan Huws ati i sefydlu ei gwmni llwyddiannau Poblado Coffi, sy’n rhostio ac yn blendio coffi yn Eryri.

“Mi oedd gen i awydd cychwyn busnes cyn i mi droi yn 40,” meddai ac ers hynny, mae’r cwmni wedi mynd o nerth i nerth.

Mewn sgwrs gyda Shân Pritchard – gohebydd lleol golwg360 – ar gyfer rhifyn cyntaf y podlediad Blas o’r Bröydd, bu Steffan yn trafod sut mae’r busnes wedi addasu dros y misoedd diwethaf.

 

O’r hen baracs yn Nyffryn Nantlle, mae’r busnes wedi dechrau clwb rhedeg, a chynnal boreau coffi yn yr awyr agored, sesiynau cerddoriaeth byw yn ogystal â sesiynau yoga!

“Pobl sy’n creu awyrgylch,” meddai, “ac roedd pobl wir angen bod hefo pobl eraill – mae o’n le mor brydferth i fod.”

Tanysgrifiwch, rhannwch a hoffwch y podlediad newydd yma gan Bro360, i glywed hanes difyr mwy o fusnesau sydd wedi mentro’n ddiweddar.

1 sylw

Ceridwen
Ceridwen

Da iawn Steff.

Mae’r sylwadau wedi cau.