gan
Jade Owen
Fel rhan o lansiad yr ap newydd Graen, mae prosiect Treftadaeth Ddisylw yn cynnig pecyn addysgol i ysgolion lleol. Mae’r pecyn yn addas i ddisgyblion ysgol gynradd ac uwchradd.
Mae’r adnodd hyn yn rhannu straeon diddorol yn ymwneud a hanes chwareyddol Dyffryn Nantlle. Fel rhan o’r pecyn mae naw stori am hanes Chwarel Dorothea ac yr pobl oedd yn byw yn yr ardal yn ystod cyfnod y chwareli. Mae hefyd wyth fideo yn ymwneud a’r straeon ynghyd a cynllun gwers. Os fyddai gennych ddiddordeb derbyn yr adnodd hwn neu os hoffwch wybodaeth bellach plîs cysylltwch â jade.owen@heneb.co.uk