Ymunwch â Chlwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle

Mae croeso i unrhyw un rhwng 11 a 26 mlwyddyn oed ymuno a’r Clwb.

Gwen Th
gan Gwen Th

Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle yn cyfarfod bob nos Lun am 19:30 yn Llys Llywelyn, Nantlle. Rydym yn Glwb ifanc a brwdfrydig sydd yn mwynhau nosweithiau hwyliog o gymdeithasu.

Cychwynodd y Clwb ddechrau mis Medi gyda noson gymdeithasol yn Llys Llywelyn, Nantlle. Er mwyn i’r aelodau hen a newydd ddod i adnabod ei gilydd ychydig yn well, cawsom amrywiaeth o gemau adeilad tîm a chyfle am sgwrs dros ddiod a chreision i gloi’r noson.

Yr wythnos ganlynol, cawsom noson chwaraeon ym Mhlas Silyn gyda machlud bendigedig yn cefndir i’r chwarae.

Mae croeso i unrhyw un rhwng 11 a 26 mlwyddyn oed ymuno a’r Clwb. Mae ein nosweithiau yn amrywio o sgyrsiau gan aelodau o’r gymuned, ymweliadau a busnesau lleol, nosweithiau ar y cyd a chlybiau eraill a nosweithiau o gemau.

Yn ogystal â hynny, mae llu o gyfleoedd i’r aelodau gystadlu mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau megis yr Eisteddfod, Ffair Aeaf, Siarad Cyhoeddus, y Rali, Chwaraeon a llawer mwy.

Dros yr wythnosau nesaf, mae gennym noson yng nghwmni Tîm Achub Mynydd Llanberis ac ymweliad â set Rownd a Rownd ym Mhorthaethwy.

Os ydych yn awyddus i ddilyn hynt a helynt y Clwb neu yn awyddus i gael mwy o wybodaeth, dilynwch ein tudalen Facebook gyhoeddus ‘CFFI Dyffryn Nantlle’, dilynwch ein cyfri Trydar @CFFI_DNantlle neu cysylltwch â Gwen ar 01286 673 159.