Wedi gweld ei enw ar y garreg ger Llyn y Dywarchen, falle fod rhai yn dyfalu pwy yw yr Arthur dan sylw? Un o sylfaenwyr Sinn Fein ydoedd, a daeth yn Arlywydd Iwerddon wedi i De Valera ymddiswyddo.
Pam fod carreg a’i enw fo arni yn y fan hon? Am mai yma oedd ei wreiddiau, yn hen ffermdy Drws y Coed Uchaf. Roedd cefn y tŷ at y llyn a’i wyneb at y ffordd. Tan y 1970au, roedd y tŷ yn dal i sefyll, ond yn anffodus, cafodd ei ddymchwel. Roedd hanes difyr iddo, a llechen uwch ben y drws,
‘Dymuniad calon yr adeiladydd,
Yr hwn a’i gwnaeth o’i ben bwy gilydd,
Fod yna groesaw i Dduw a’i grefydd
Tra bo ceryg ar ei gilydd.’
WG
Teulu William Griffith oedd yn gyfrifol am y lle, oedd yn perthyn i’r Morafiaid yn 1700. Wedi iddynt fyw yno, troesant y tŷ yn gapel i’r Morafiaid, Yn ddiweddarach cododd dŷ arall iddo ef a’i wraig a’i wyth merch. Symudodd y ddwy ferch ynaf i Ddulyn er mwyn cael bod yn rhan o gymuned y Morafiaid. Un o ddisgynyddion y merched hyn oedd Arthur Griffith, 1871 – 1922. Fo arweiniodd y ddirprwyaeth Wyddelig i drafod efo llywodraeth Prydain a chanlyniad hyn oedd Cytundeb 1921. Roedd wedi sefydlu papur yr United Irishman ym 1899. Yng Ngwrthryfel y Pasg 1916, fe’i harestiwyd a’i garcharu. Ef oedd Llywydd Gweriniaeth Iwerddon o Ionawr 1922 tan ei farwolaeth yn Awst 1922.
Am ragor o wybodaeth, gweler ‘Hafan, Bwlch a Dyffryn’ gan Elfed Roberts, Darlith Llyfrgell Penygroes 1992), ac mae Karen Owen wedi cymryd diddordeb mawr ynddo.