Roedd pob sedd wedi ei chymryd yn Yr Orsaf ar 25 Dachwedd wrth inni fwynhau noson gofiadwy gyda’n ser sgrin ein hunain. Ym 1953, sgwennodd John Gwilym Jones y sgript ar gyfer ffilm Gymraeg ‘A Letter From Wales’, yn disgrifio bywyd yng Nghymru. Seiliodd John Gwilym y ffilm ar ei atgofion ohono yn blentyn yn Cae Doctor, Llandwrog. Roedd teulu Cefn Hengwrt yn perthyn iddo, felly plant y fferm honno – Evie Wyn, Olga, Vera a Johnie a ddefnyddiwyd yn y ffilm.
Yn 1983, gwnaeth Wil Aaron raglen am y ffilm, ‘Llythyr o Gymru’ yn dangos teulu Cefn Hengwrt yn gwylio’r ffilm 30 mlynedd yn ddiweddarach. Yn Yr Orsaf, roedd Wil yn bresennol yn holi dau o ser y ffilm, Evie Wyn ac Olga.
Yn ystod y noson, dangoswyd llun o blant Ysgol Llandwrog o’r cyfnod, ac roedd mwy nac un ohonynt yn bresennol yn y gynulleidfa.
Er iddi gymryd haf cyfan i wneud y ffilm, a’i fod yn strach ar y pryd, cytunodd pawb ei bod yn gofnod gwerthfawr o’r teulu hwn, ac o gyfnod ac ardal arbennig iawn.
Yn gynnar yn 2020, bydd ffilm arall yn cael ei dangos yn Yr Orsaf, sef Yr Afon – ffilm o awdl Gerallt Lloyd Owen pan ennillodd ym 1975 yn Eisteddfod Bro Dwyfor a phlant Aelwyd Llandwrog wnaeth y ffilm ym 1976.