Llwyddiant i CFFI Dyffryn Nantlle

Daeth CFfI Dyffryn Nantlle yn ail yn nharian Goffa Llinos Owen Jones yn CCB Eryri.

Gwen Th
gan Gwen Th


Cynhaliwyd Pwyllgor Blynyddol Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri nos Wener yr 20fed o Fedi ym Mwyty’r Golff, Caernarfon.

Bu’n noson lwyddiannus iawn i Glwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle wrth iddynt ddod yn ail yn nharian Goffa Llinos Owen Jones am y Marciau uchaf yn y cystadlaethau diwylliant, ail yng nghwpan Barhaol W.J Owen am y marciau uchaf yn y siarad cyhoeddus, ail yn nharian Goffa Alwyn Evans, Garth Hebog am y marciau uchaf yn y cystadlaethau chwaraeon a thrydydd yn nhlws Hafod y Llan am y cynnydd mwyaf mewn aelodaeth.

Bu llwyddiant i aelodau unigol o fewn y Clwb yn ogystal wrth i Ifan Prys, Dolgynfydd gipio Tlws Hwsmon Iau’r flwyddyn (Barnwr Gorau’r Flwyddyn dan 18). Etholwyd Glesni Bowness Jones yn is-drysorydd y Sir ac etholwyd Mrs Nesta Griffiths, Henblas, Llanwnda (cyn arweinydd y Clwb) yn Aelod Oes y Mudiad gan gydnabod ei chyfraniad a’i chefnogaeth amhrisiadwy i’r Mudiad dros y blynyddoedd.

Llongyfarchiadau mawr i bawb!