Cynhaliwyd Pwyllgor Blynyddol Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri nos Wener yr 20fed o Fedi ym Mwyty’r Golff, Caernarfon.
Bu’n noson lwyddiannus iawn i Glwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle wrth iddynt ddod yn ail yn nharian Goffa Llinos Owen Jones am y Marciau uchaf yn y cystadlaethau diwylliant, ail yng nghwpan Barhaol W.J Owen am y marciau uchaf yn y siarad cyhoeddus, ail yn nharian Goffa Alwyn Evans, Garth Hebog am y marciau uchaf yn y cystadlaethau chwaraeon a thrydydd yn nhlws Hafod y Llan am y cynnydd mwyaf mewn aelodaeth.
Bu llwyddiant i aelodau unigol o fewn y Clwb yn ogystal wrth i Ifan Prys, Dolgynfydd gipio Tlws Hwsmon Iau’r flwyddyn (Barnwr Gorau’r Flwyddyn dan 18). Etholwyd Glesni Bowness Jones yn is-drysorydd y Sir ac etholwyd Mrs Nesta Griffiths, Henblas, Llanwnda (cyn arweinydd y Clwb) yn Aelod Oes y Mudiad gan gydnabod ei chyfraniad a’i chefnogaeth amhrisiadwy i’r Mudiad dros y blynyddoedd.
Llongyfarchiadau mawr i bawb!