Mae preswylwyr Dyffryn Nantlle wedi bod yn brysur yn ddiweddar wrth iddynt barhau i glirio sbwriel yn eu cymuned. Ymunodd y grŵp Ffrindiau Penygroes gyda’r tîm plismona lleol i glirio llwybrau a llecynnau o amgylch canol y pentref, tra ddaru grŵp o drigolion Talysarn casglu 13 bag bin yn llawn sbwriel yn eu hardal.
Meddai’r Cynghorydd Judith Humphreys, Penygroes sy’n un o drefnwyr sesiynau casglu sbwriel yn y pentref: “Mae Ffrindiau Penygroes wedi bod yn casglu sbwriel yn rheolaidd ers sbel nawr ac rydyn ni wedi cael ymateb gwych gan bobl yn y gymuned. Mae Ffrindiau Penygroes yn ddiolchgar iawn i’r heddlu, i Cadwch Cymru’n Daclus ac i ddisgyblion Ysgol Bro Lleu sydd hefyd wedi bod yn helpu o bryd i’w gilydd am y cymorth ac i dîm Caru Gwynedd y Cyngor am ddarparu’r offer ac i waredu’r bagiau.
“Y gobaith yw y bydd ein hymdrechion yn helpu i godi ymwybyddiaeth yn lleol nad yw taflu sbwriel yn dderbyniol i fwyafrif o breswylwyr, a hefyd ein bod o ddifrif ynghylch hybu balchder cymunedol.”
Dywedodd Jill Williams, sy’n trefnu sesiynau casglu sbwriel Talysarn: “Mae ein grŵp o tua 14 gwirfoddolwyr yn un anffurfiol iawn, gyda thua wyth yn mynychu ein sesiynau casglu sbwriel fel arfer – ddim yn ddrwg o gwbl gan ystyried mai dim ond dau ohonom oedd yno yn y dechrau. Roedden ni wedi cael llond bol ar gyflwr y pentref ac felly fe benderfynwyd bod yn rhaid gwneud rhywbeth!
“Diolch i’r holl wirfoddolwyr am eu cymorth ac i Gyngor Gwynedd am ein helpu i ddechrau ac i godi’r bagiau.”
Canmolwyd yr ymdrech casglu sbwriel yn Nhalysarn gan y Cynghorydd lleol Dilwyn Lloyd. Meddai’r Cynghorydd: “Rwy’n hapus iawn i weld bod ein trigolion lleol yma yn Nhalysarn wedi mynd i’r afael a sbwriel yn eu cymuned. Mae’n dangos bod eu balchder a’u hysbryd cymunedol yn fyw ac yn iach ac na fyddant yn goddef y llanast a adawyd gan leiafrif anghyfrifol.
“Hoffwn estyn fy niolch i bawb a gymerodd ran yn ystod y digwyddiad ac i Caru Gwynedd am eu cefnogaeth.”
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Wager, aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd: “Mae gweithredu cymunedol wrth wella’r amgylchedd lleol yn hynod o bwysig, yn enwedig y dyddiau hyn gyda chymaint o bwysau ar wasanaethau’r Cyngor. Nid gwella’r amgylchedd yn unig mae digwyddiadau fel hyn, maent hefyd yn dod â phobl ynghyd ac felly’n adeiladu cymunedau cryfach.
“Diolch i bawb a chwaraeodd ran yn y digwyddiad yma.”