Cafodd etholaeth Arfon ei chreu yn ei ffurf bresennol yn 2010 yn dilyn rhannu etholaethau Caernarfon a Chonwy fel bod Caernarfon, Bangor a Dyffrynnoedd Ogwen a Nantlle yn un etholaeth.
Yn yr etholaeth mae ambell i brif gyflogwr fel Cyngor Gwynedd, Ysbyty Gwynedd a Phrifysgol Bangor. Mae’r brifysgol yn cyflogi tua 2,000 o bobl, ac mae 11,000 o fyfyrwyr rhan a llawn amser yn ei mynychu. Yn ogystal â hyn, mae’r ysbyty yn cyflogi llawer o bobl yn yr etholaeth, yn enwedig o amgylch Bangor. Mae’n denu pobl i ddod i weithio i’r ardal, ac felly’n hybu’r economi leol. Bydd yn bwysig ystyried gweithwyr y prif sefydliadau hyn ac eraill wrth ddewis y blaid yr ydych am bleidleisio drosti yn yr etholiad.
Yn 2017, fe wnaeth Theresa May, y Prif Weinidog ar y pryd, alw am etholiad cyffredinol ddwy flynedd ar ôl yr un blaenorol yn 2015. Cyn yr etholiad hwnnw, Hywel Williams oedd Aelod Seneddol Arfon yn San Steffan, a bu iddo gadw ei sedd gyda mwyafrif o 92 pleidlais dros yr ymgeisydd Llafur, Mary Clarke. Hywel Williams fu’n cynrychioli etholaeth Caernarfon o 2001 i 2010 ac mae’n parhau i gynrychioli’r etholaeth Arfon hyd nes i’r etholiad yma gael ei alw. Mae’n ymgeisio unwaith eto i gynrychioli’r etholaeth yn San Steffan.
Felly, wrth bleidleisio ar y 12fed o Ragfyr, rhaid i ni, bobl Arfon, ystyried beth yn union yw cryfderau a gwendidau ein hetholaeth, er mwyn dewis y blaid sydd fwyaf addas i’r newidiadau priodol. Dros y dyddiau nesaf, byddwn yn edrych ar bob ymgeisydd, gan ddechrau gyda’r Blaid Lafur.
Y Blaid Lafur
Yn yr etholiad ar y 12fed o Ragfyr, 2019, Steffie Williams fydd ymgeisydd y Blaid Lafur yn Arfon.
Wedi’i magu ym Mangor, astudiodd Williams y gyfraith yn y brifysgol, cyn mynd ymlaen i ysgrifennu llyfrau a derbyn llu o wobrau am ei nofelau. Daeth hi’n aelod o’r Blaid Lafur yn 2015, oherwydd ei bod wedi gweld y dirywiad o dan oruchwyliaeth y Ceidwadwyr. Mae ei phrif flaenoriaethau hi a gweddill y blaid yn cynnwys:
- Sicrhau bod yr economi yn gweithio i bawb, gan gynnwys yr amgylchedd
Wrth ystyried bod yr amgylchedd mewn perygl, cred y Blaid Lafur bod angen gweithredu yn gyflym er mwyn atal niwed pellach i’n byd a’n heconomi. Maen nhw’n addo:
- Gwario £400biliwn i sicrhau bod yr economi yn gweithio i bawb ym mhob rhan o Brydain.
- Gwneud y rhan helaeth o’n hegni a’n gwres i ddod o’r haul, gwynt a’r dŵr erbyn 2030.
- Buddsoddi mewn mwy o fysus ar draws Prydain, a hybu trenau a cheir sy’n rhedeg ar drydan.
- Gweithio er mwyn arbed y cefn gwlad, anifeiliaid, planhigion a phopeth ar y ddaear.
- Sefydlu cyfraith newydd i sicrhau bod yr aer yr ydym yn ei anadlu yn lân.
- Sicrhau mai ein gwasanaethau cyhoeddus ni yw’r rhai gorau yn y byd
Cred y Blaid Lafur bod y llywodraeth wedi niweidio gwasanaethau cyhoeddus, ac wedi gadael miloedd o bobl heb y cymorth sydd eu hangen arnyn nhw. Mi fyddai’r Blaid Lafur yn gwella hyn drwy:
- Dalu am wasanaethau cyhoeddus gwell drwy wneud rheolau trethu sydd yn decach i bawb – gofyn i bobl sydd yn ennill mwy na £80,000 y flwyddyn i dalu mwy o dreth a sicrhau fod y bobl a chwmnïau yn talu eu trethi sydd yn ddyledus arnynt.
- Buddsoddi £150 biliwn mewn sefydliadau megis ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal.
- Gwneud i’r llywodraeth redeg gwasanaethau fel nwy, trydan, dŵr a thrafnidiaeth yn hytrach na chwmnïau preifat.
- Bydd pawb sydd yn iau na 25 yn cael teithio am ddim ar fysiau.
- Bydd wifi am ddim i bawb ym Mhrydain erbyn 2030, fel y bydd gan bawb yr hawl i ddefnyddio’r wê.
- Gofal iechyd gwell i bawb
Mae’r Blaid Lafur yn blaenoriaethu gofalu am y GIG (Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol). Er mwyn sicrhau fod cymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen. Maen nhw am wneud hyn drwy:
- Sicrhau fod gan y GIG y staff, yr arian a’r cyfleusterau i weithio i’r safon uchaf posib.
- Rhoi cymorth cynt i bobl sydd yn dioddef gydag afiechyd y galon, strôc a chancr.
- Rhoi apwyntiadau deintydd am ddim i bawb.
- Cadw prisiau meddyginiaethau yn isel, ac atal pobl Lloegr rhag talu am bresgripsiynau.
- Helpu i hyfforddi mwy o nyrsys a doctoriaid.
- Sicrhau fod y parcio yn yr ysbytai am ddim.
- Cynnig cymorth iechyd meddwl gwell i bobl ifanc ac oedolion.
- Cael mwy o heddlu mewn ardaloedd lleol.
- Atal tlodi a hybu cydraddoldeb
Mae’r blaid yn credu’n gryf fod y llywodraeth yn gwneud i fywydau trigolion Prydain fod yn llawer anos na sydd angen iddyn nhw fod. Er mwyn atal hyn, mae’r Blaid Lafur am:
- Atal pobl rhag gorfod disgwyl 5 wythnos i gael eu budd-daliadau.
- Darganfod ffordd decach i weld os ydy unigolyn yn ddigon abl i weithio.
- Rhoi mwy o arian i ofalwyr llawn amser.
- Rhoi trwyddedau gyrru a theledu am ddim i’r henoed.
- Atal y galw am ddefnyddio banciau bwyd.
Crëwyd proffiliau ymgeiswyr Arfon gan Brengain Glyn, Tomos Mather, Tomos Parry a Morgan Siôn Owen (Ysgol Tryfan).