Cwrdd â Chlwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle – 2019

Fideo yn rhoi blas o fywyd CFfI Dyffryn Nantlle

Guto Jones
gan Guto Jones

Cafodd Bro360 noson brysur iawn yn cwrdd a chreu cynnwys gyda chriw Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle – a dyma’r canlyniad – fideo yn cyflwyno rhai o’r aelodau, ac yn rhoi blas i chi o fywyd y clwb!

Mae’r clwb yn cwrdd pob nos Lun am 7:30pm yn Llys Llywelyn, Nantlle, ac mae ‘na groeso i unrhyw un sydd rhwng 11 a 26 mlwydd oed!

Cofiwch hefyd am fore coffi’r clwb, sy’n cael ei gynnal ar Ddydd Sadwrn y 5ed o Hydref, rhwng 10yb a 12yp. Bydd y bore’n cael ei gynnal yn Neuadd Goffa Penygroes, a bydd yr holl elw’n mynd at fenter gymunedol y Dyffryn.

Os am i Bro360 ddod i gynnal sesiwn â’ch clwb chi, cysylltwch â post@bro360.cymru

Dyma stori gan CFfI Dyffryn Nantlle ar gyfer gwefan fro newydd DyffrynNantlle360. I rannu eich stori leol chi, y cam cynta yw cofrestru fel ‘brodor’ yma: https://360.cymru