Bardd yn edrych tua’r sêr mewn casgliad o gerddi newydd

Karen Owen yn cyhoeddi casgliad o gerddi newydd.

Guto Jones
gan Guto Jones

Bydd casgliad diweddaraf o gerddi Karen Owen ar gael i’w fwynhau mewn llyfr ac fel traciau sain, wrth i DEDWYDD A DIRIAID gael ei fwrw i’r byd mewn noson ym Mhen-y-groes yr wythnos hon.

Ym mis Ionawr 2020, bydd Karen yn teithio Cymru gyda’r CD – gan ymweld â Wrecsam, Bangor, Caerfyrddin a Merthyr Tudful, ymysg llefydd eraill – ond cyn hynny, bydd cyfle i glywed a darllen y gwaith nos Wener, Tachwedd 15 yng ngwinllan Pant Du, Pen-y-groes.

Mae Karen wedi bod yn cydweithio gyda rhai o leisiau a cherddorion enwocaf Cymru ar droi ei cherddi yn draciau – gyda’r bwriad o fynd â barddoniaeth at fwy o bobol. Ymysg y rhai sydd wedi benthyg eu lleisiau i’r cerddi y mae Dafydd Elis-Thomas, John Ogwen, Alun Ffred Jones, Eurig Salisbury, Iestyn Tyne, Arwyn ‘Groe’ Davies a Tecwyn Ifan.

Dedwydd a diriaid?

Mae teitl y prosiect yn dod o’r hen gred Gymreig fod yna ddau fath o bobol yn y byd:

  • y dedwydd, sef rhai sy’n cael eu geni pan y mae’r sêr yn y ‘lle iawn’ yn yr awyr, sy’n eu gwneud nhw’n bobol lwcus, synhwyrol a doeth
  • y diriaid, sef y rhai gafodd eu geni dan felltith, pan oedd yr awyr ddim yn glên, a rhai sydd heb lawer o obaith o lwyddo yn y byd

Ond mae Karen yn herio’r syniad hwnnw, ac yn gofyn, tybed a ydi pawb yn ‘ddedwydd’ neu’n ‘ddiriaid’ ar wahanol adegau yn eu bywydau?

“Mae o’n swnio’n greulon iawn i osod label ar fabi, ar sail lle’r oedd y sêr, pan gafodd o’i eni, a bod hynny’n rhywbeth y mae o’n ei gario efo fo am weddill ei fywyd,” meddai Karen.

“Mae o’n bownd o greu anobaith mewn rhai pobol… a gwneud i bobol eraill feddwl na fedran nhw wneud dim byd o’i le.”

Dyma’r trydydd tro i Karen gyhoeddi ei cherddi ar ffurf traciau cerddorol.

Cewch flas ar y CD yma, wrth i Karen a John Ogwen adrodd ‘Cofeb Pen-yr-orsedd’, sydd yn cyfeirio at gofeb rhyfel yn Nantlle – addas iawn ar gyfer dydd y Cadoediad.