Ar ein ffordd💙⚽️ pic.twitter.com/fc2YmSf0jT
— Nantlle Vale FC (@NantlleValeFC) March 26, 2022
🌟Canlyniad terfynol🌟
Mold Alexandra 1 Nantlle Vale 0
Colli munud olaf wnaeth y tîm cyntaf heddiw ar ôl chwarae yn arbennig trwy’r gêm. Wedi gael llawer o gyfleoedd ac wedi creu her i Mold Alexandra.Da iawn chi hogiau, mae’r clwb yn falch iawn ohonoch chi.👏👏 pic.twitter.com/40h1gbLK76
— Nantlle Vale FC (@NantlleValeFC) March 26, 2022
💥CYMRU C 💥
Bore fory rhwng 11:30-12:45 bydd sesiwn hyfforddi Cymru C yn cael ei gynnal yng nghae Fêl! Cyn y gêm fawr yn erbyn Lloegr C Nos Fercher yn yr Oval. Rydym methu aros i groesawu’r hogiau i gae fêl ac yn lwcus iawn o’r cyfle.Mi fydd hi’n ddiwrnod mawr i’r Dyffryn pic.twitter.com/rDmAl8FFIC— Nantlle Vale FC (@NantlleValeFC) March 28, 2022
Ein disgyblion wedi bod yn brysur yn gwehyddu helyg yr wythnos diwethaf. Mae'r gweithdy yn rhan o brosiect Celf Gymunedol, diolch i Gydlynydd Celfyddydau'r @yr_orsaf Gwenllïan Spinks am drefnu ac i Eirian Muse am arwain. Roedd y plant wedi mwynhau yn fawr. pic.twitter.com/QVRjNRHhAD
— YsgolDyffrynNantlle (@YDNantlle) March 29, 2022
— YsgolDyffrynNantlle (@YDNantlle) March 29, 2022
Mwy o luniau'r Gweithdy gwehyddu helyg. pic.twitter.com/V3RKZG29Zq
— YsgolDyffrynNantlle (@YDNantlle) March 29, 2022
— YsgolDyffrynNantlle (@YDNantlle) March 29, 2022
Llongyfarchiadau i Ani, Lleucu ac Emee sy'n dawnsio gydag #ysgolddawns Anti Karen ac wedi bod yn Blackpool yn y gystadleuaeth 'Cheer Dance UK'. Roedd Lleucu ac Emee wedi cael 4ydd yn eu categori ac Ani wedi cael 2il a 4ydd yn ei chategorïau. Da iawn chi genethod! 💃 pic.twitter.com/Q9udm4BVp2
— YsgolDyffrynNantlle (@YDNantlle) March 29, 2022
Profiad gwych heddiw yn gwylio tim Cymru C yn ymarfer ar gae Nantlle Vale. Pob lwc nos yforu yn Yr Oval yn erbyn Lloegr 🏴Diolch am y gwahoddiad⚽️@nantlle_360 @Cymru @NantlleValeFC pic.twitter.com/nRreMWlYxf
— Ysgol Llandwrog (@LYsgol) March 29, 2022