Diolch o galon i Ameer Davies-Rana ac Elidir Glyn am ddod i'r ysgol heddiw fel rhan o'r diwrnod sgiliau.
Cafodd disgyblion blwyddyn 8 gyfle i wrando ar gyflwyniad a holi cwestiynau i Ameer a chafwyd disgyblion blwyddyn 6 a 7 y dalgylch gyfle i gyfansoddi ar y cyd hefo Elidir pic.twitter.com/jLLTG2A01H— YsgolDyffrynNantlle (@YDNantlle) November 23, 2022
Dydd Sadwrn, teithiodd Elinor yr holl ffordd i Drefynwy i gystadlu yn 'Welsh Inter regional cross country' yn cynrychioli Gogledd Cymru. Cipiodd y tîm merched o dan 13 y wobr efydd yn y gystadleuaeth hon. .
Da iawn Elinor, rydym i gyd yn ymfalchïo yn dy lwyddiant. pic.twitter.com/CyoBuifkqR— YsgolDyffrynNantlle (@YDNantlle) November 23, 2022
Cabinet Cyngor Gwynedd yn cytuno ar gynnig i godi premiwm treth cyngor ail dai i 150%
Bydd y cynnig yn mynd o flaen y cyngor llawn fis nesaf, ond mae Cymdeithas yr Iaith yn pwyso ar gynghorwyr mewn sawl sir i argymell cynyddu'r dreth
Darllen rhagorBore braf ar Sul y Cofio ym Mhenygroes heddiw 🌺
Diolch yn fawr i’r Pennaeth am osod torch y Pabi coch ar ran yr ysgol a diolch i’r prif ddisgyblion, Elis a Lea, am eu darlleniadau fel rhan o‘r gwasanaeth pic.twitter.com/lPbUvz37On— YsgolDyffrynNantlle (@YDNantlle) November 13, 2022
Disgyblion y chweched dosbarth wedi bod wrthi’n hyfforddi chwaraeon yn @YsgolLlanllyfni heddiw. Gwych i weld y disgyblion yn datblygu eu sgiliau ac yn mwynhau! #YDN 🏃 🏃♀️ ⚽️ pic.twitter.com/x8EsGaeqhw
— Addysg GorfforolYDN (@AGorfforol) November 16, 2022
Blwyddyn 8 a 9 yn gweithio’n galed yn ystod eu ymarferion heddiw. 🏉 ⚽️ Cofiwch pêl-fasged amser cinio fory (Plas)🏀 #cyfleibawb pic.twitter.com/i23q8KYPtm
— Addysg GorfforolYDN (@AGorfforol) November 16, 2022
Llongyfarchiadau MAWR i Gruffydd o Ysgol Bro Llifon ac Alaw o Ysgol Llanllyfni, ar ennill y gystadleuaeth Helfa Sticeri Lleu'r Llwynog yn ystod Noson Agored Ysgol Dyffryn Nantlle yn ddiweddar. Cyflwynwyd crys pel-droed Cymru i ddau ddisgybl hapus ar ddechrau'r wythnos. pic.twitter.com/4lSi7eg16d
— YsgolDyffrynNantlle (@YDNantlle) November 17, 2022
Neges i dîm pêl droed Cymru @FAWales gan ddisgyblion blwyddyn 7 yr ysgol. #arbenybyd #togetherstronger #nunllefelnantlle pic.twitter.com/EU6wBlCpdG
— YsgolDyffrynNantlle (@YDNantlle) November 17, 2022
Y plant wrdi mwynhau- diolch yn fawr👍 https://t.co/unRsb07bFh
— Ysgol Llandwrog (@LYsgol) November 18, 2022