Cyfle i ennill celf gwreiddiol gwerth £550!

5 diwrnod ar ôl i gystadlu!

gan Llio Elenid
Poster cystadleuaeth gwaith celfApêl Groeslon, Llandwrog, Carmel a'r Fron - Eisteddfod Genedlaethol 2023

Dyma gyfle arbennig i ennill llun olew gwerth £550 gan yr artist Stephen John Owen!

Am bob rhodd o £10 (neu fwy!) i apêl Eisteddfod Genedlaethol 2023 ardal Groeslon, Llandwrog, Carmel a’r Fron cyn y 23/11/22, bydd cyfle i chi ennill gwaith celf gwych gan artistiaid lleol. Llenwch y ffurflen hon i gymryd rhan ac am fwy o wybodaeth https://forms.gle/k2fVwjP4QppfkbUK8

Y gwobrau yw:

1af – Llun olew gwreiddiol o Ynys Enlli gan Stephen John Owen Artist, gwerth £550

2il – Print o Foel Eilio gan Lisa Eurgain Taylor Celf/Art, gwerth £85

3ydd – Print Saith Rhyfeddod mewn mownt gan Sioned Glyn – Celf 

Pob lwc i chi gyd, a diolch am gefnogi!

Poster cystadleuaeth gwaith celf