Hwb Treftadaeth a Chelf Dyffryn Nantlle

Be ’sa chi’n hoffi ei weld yn yr hwb?

gan Llio Elenid

Ers cael dynodiad Statws Treftadaeth y Byd UNESCO mae awydd i weld cyfres o hybiau yn datblygu yn yr ardaloedd llechi, a’r bwriad gennym yw sefydlu Hwb Treftadaeth a Chelf i Ddyffryn Nantlle ym Mhenygroes. Bydd gan yr hwb ddwy elfen, un ar ochr dreftadaeth a hanes cymdeithasol yr ardal a’r llall ar ddatblygu unedau a gofodau i artistiaid. Y gobaith yw y bydd yr hwb yn fan cyntaf all bobl leol a thwristiaid ddod i ddysgu am yr ardal a’i hanes, i ddysgu mwy am ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Cymru ac i wybod beth sy’n mynd ymlaen yn Nyffryn Nantlle.

Ewch ar y ddolen ganlynol er mwyn ateb yr holiadur a rhoi eich barn ar yr hwb – Holiadur Hwb Treftadaeth a Chelf Dyffryn Nantlle

Am fwy o wybodaeth cysylltwch efo llioelenid.yrorsaf@gmail.com, neu groeso i chi biciad draw i’r Orsaf ar Heol y Dŵr ym Mhenygroes.