Dewch am dro efo ni yn Yr Orsaf nos Lun nesa, yr 8fed o Orffennaf.
Y tro yma mi fydda ni yn troedio llwybr lôn Gwyrfai, sy’n pasio heibio Llyn y Gadair – taith gerdded braf o 2 filltir. Mae’n daith hawdd dan droed, ac yn addas i bawb – croeso i deuluoedd. Ond cofiwch bod dal angen par o sgidiau cerdded call.
Byddwn yn cyfarfod yn Yr Orsaf ym Mhenygroes am 6pm os ydych yn dymuno cael pas i Rhyd Ddu yn y bws mini am £1, neu gyfarfod yn maes parcio Rhyd Ddu ei hun am 6:30.
E-bostiwch llioelenid.yrorsaf@gmail.com i gadw lle ac am fwy o wybodaeth
Mae gennym ni fwy o deithiau ar y gweill dros y misoedd nesa hefyd – i gyd yn lefelau her gwahanol – felly cadwch lygaid allan ar DyffrynNantlle360, yn papur bro Lleu, ac ar dudalennau instagram a facebook Yr Orsaf.