Oriau agor bar Bragdy Lleu dros y Pasg

“Lle braf i fynd am beint a sgwrs”

Bragdy Lleu
gan Bragdy Lleu

Mae bar Bragdy Lleu yn Uned 6 ar Stâd Ddiwydiannol Penygroes wedi bod ar agor ers mis Tachwedd 2023 ac wedi profi’n boblogaidd iawn gyda sawl un fel “lle braf i fynd am beint a sgwrs” gyda theulu a ffrindiau. Bu’r bragdy dan ei sang yn ystod gemau Rygbi’r chwe gwlad yn ddiweddar a bydd mwy o ddigwyddiadau i ddod eleni.

Gyda golygfa o’r Bragdy ei hun, cewch fwynhau peint o gwrw Cymreig o fewn ychydig droedfeddi i ble cafodd ei fragu gan Gareth Harrison, Pennaeth Bragu Bragdy Lleu.

Mae’r cwmni wedi sefydlu ers fymryn dros 10 mlynedd bellach ac yn dal i gael ei redeg gan griw bychan gwirfoddol sy’n awyddus i roi Dyffryn Nantlle, Y Mabinogi a iaith a diwylliant unigryw yr ardal hon ar y map drwy gyfrwng cwrw. Y bwriad, yn ogystal â chynnig gwasanaeth i drigolion lleol, yw i ddenu ymwelwyr i fwynhau, dysgu a chyfrannu i economi’r ardal drwy ymweld â nifer o’r busnesau annibynnol gwych eraill sydd gennym yma yn y Dyffryn.

Mae yma amrywiaeth o gynnyrch Cymreig a chroeso cynnes wastad ar gael. Mae dewisiadau di-alcohol ar gael yn ogystal â diodydd meddal.

Os nad ydych wedi mentro draw eto, pam ddim gwneud yn fawr o’r penwythnos hir a dod draw i fwynhau gwydraid neu ddau o gynnyrch Cymreig efo ni?

Byddwn ar agor dydd Gwener a dydd Sadwrn o 4yp-10yh.

Iechyd da!