Bu’r Farchnad ddigon prysur ym mis Chwfror er gwaetha’r glaw. Roedd sawl stondin newydd a rhai o’r byrddau rheolaidd yn prysur werthu. Daeth Adran Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd atom i roi sgwrs am yrru’n saff a diolch iddynt am roi eu hamser. Yn y stafell gefn bu hyfforddiant am achub bywyd hefo diffibliwr ac wedyn sesiwn gan Mel Morris o Gymdeithas Ffyn Gogledd Cymru. Daeth a phob math o ffyn i ddangos y grefft draddodiadol yma – yn gorn – maharen,byfflo; rhai bugail, bawd, cerdded a dangos y grefft o’r cychwyn i’r diwedd. Hynod ddiddorol wir.
Cafwyd ymateb dda i’r bwydydd – gwerthu allan o facwn, a chydig iawn o’r cawl a pasta pôb oedd ar ol erbyn 1:00, braf hefyd gweld pobol yn sgwrsio dros banad. Dathlu dyfodiad y goleuni a’r Gwanwyn oeddem mis yma. Erbyn y farchnad nesaf bydd gwefan wedi ei chreu a cewch yr holl wybodaeth am y Farchnad arni.