Wel am Farchnad a hanner dydd Sadwrn, Mawrth 16eg – llawn prysurdeb, digonedd o betha’ i’w wneud a’r deuawd lleol Glesni a Gethin yn wych. Ffordd dda o ddathlu Dydd Gwyl Dewi a chysylltiadau celtaidd! Roedd yr anifeiliad yn werth eu gweld dan arweiniad Steve A Sarah McGlynn, neidr, ceffyl bach, pry cop anferth a chwningod i enw dim ond rhai. Cafodd y plant a’r oedolion gyfle i afael arnynt a dysgu sut i edrych ar eu holau. Gwerthwyd allan o’r pizzas cartref, cacennau a theisennau cri gyda’r paneidiau yn llifo.
Cafwyd nifer fawr o stondinau yn gwerthu bwyd, crefftau a cynnyrch, diolch iddynt am ddod.
Daeth Emma o Dementia Actif Gwynedd yna i son am ei gwaith yn lleol a gobeithio y gallwn gynnal Marchnad Dementia Gyfeillgar yn y dyfodol. Diolch i bawb a ddaeth a’u dillad, tegannau, bagiau ayyb i’w hailgylchu gan Antur Waunfawr a bore dydd Llun roedd Malcom, Llio a Kyle yn fwy na hapus hefo 4 bag hiwj o nwyddau a gasglwyd. Diolch ichi gyd am eu cefnogi ac hefyd cefnogi eich marchnad. Bydd gwledd arall yn disgwyl amdanoch fis Ebrill cofiwch!