Cafwyd Marchnad arbennig jest cyn y ‘Dolig, yn fwrlwm o stondinau a phobol, pawb yn barod i gymeryd rhan ym mhob dim. Roedd stafell yr Aelwyd wedi cau oherwydd llifogydd a bu Wendy, gyda help llaw Brenda a Toby yng nghornel y Neuadd Fawr yn gwneud torch at y Nadolig. Ew roedd na hên siarad a chwerthin a dros ddwsin wedi eu gwneud torch gwerth eu gweld. Bu canmol mawr ar arweiniad ag amynedd(!) Wendy a phôb un yn browd iawn o’u cynnyrch. Ar ol llafurio mor galed, rhaid oedd mynd am banad a sgwrs. Ar y fwydlen oedd pizzas cartref, cinio Dolig llysieuol ac wrth gwrs y bap bacwn! Cafwyd cwyn erbyn 12:00 fod y bacwn wedi mynd i gyd! Hefyd ar gael oedd pwdin meringue, llysiau a hufen – a lyfli oeddo fyd! Diolch i’r merched fu’n gweithio mor galed trwy’r bore yn paratoi a gweini.
Stondin y Mis oedd Cwmni Cwtin hefo cyfle i ennill ci (tegan) a cawsant lawer iawn o gefnogaeth. I ddiddori’r gymuned daeth Cor Makaton draw dan arweiniad Ceri. Roedd tipyn o drafferth hefo’r system sain ac felly gorfod cwtogi faint o ganeuon a gawsom. Serch hynny y gair mawr oedd GWYCH, a mawr ddiolch i’r cantorion, cefnogwyr a’r teuluoedd ddaru helpu.
Cafwyd ein ‘Band’ yn ol a braf gweld a chlywed y criw yn perfformio – ar y llwyfan ac yna yn y Caffi hefo cyfle i ganu chydig o garolau gyda Fflur Pierce yn codi’r canu. Unwaith eto cafwyd sesiwn wych a rhoi naws Nadoligaid arbennig i’r Farchnad. Diolch i Gwenllian a’r band ac i Fflur. Daeth Leona o Brifysgol Bangor draw i rannu gwybodaeth am brosiect treftadaeth Dorothea a gofyn am straeon, llyniau ac ati gan drigolion y Dyffryn. Bydd yn dod eto felly ewch ati i dyrchu trwy’r llyniau a dod a hwy i’w sganio.
A dyna ni, bron yn ddiwedd blwyddyn arall a hoffem ddiolch i chi gyd am fynychu a chefnogi’r Farchnad. Blwyddyn Newydd Dda ac iach i chi un ag oll.