Marchnad Lleu

Mis Awst

Anwen Harman
gan Anwen Harman

Wel dyma fore prysur, llawn bwrlwm ac egni – y Farchnad ora’ eto dybiwn i. Cafwyd nifer fawr o stondinau bwyd – llysiau a ffrwythau ffres, cacennau blasus a bara gwerth chweil, heb son am y crefftau amrywiol. Bu Caffi’r Dylluan yn brysur o’r cychwyn cyntaf ac wedi gwerthu allan erbyn 1:00! Pobol yn mynd a bwyd o’r caffi adra i swper! Diolch i’r merched am weithio mor galed i goginio a gweini heb anghofio Kate wrth y sinc a gwneud paneidiau.

Yn anffodus roedd rhaid cohirio y cawio plu pysgota hefo Meical a Kevin gan fod Meic yn sâl a dymunwn adferiad buan iddo. Hoffem hefyd ddymuno ymddeoliad hir a hapus iddo, mi fydd na lot fawr o ‘sgota yn y dyfodol! Siom hefyd oedd i Jo o Dot Art orfod cohirio ei sesiwn peintio dotiau a gobeithio y bydd hefo ni yn y flwyddyn newydd ar ol gwella.

Stondin y Mis oedd Cwmni Cwtin – yn gwerthu tocynnau raffl fel slecs – a gwobrau gwych ar gael. Casglu arian i adfer a chynnal y cae chwarae yn ‘West End’ mae’r grwp ac wedi cael swm go dda o arian ar ol eu hymweliad atom.

Thêm y Farchnad oedd Syrcas a daeth Syrcas Cimera atom i ddysgu sgiliau i blant, ag ambell oedolyn. Son am hwyl jyglo, hwla hwpio a troi platiau ar ffon fach! Rhaid wrth gwrs dathlu yr Haf a’r syrcas hefo miswig a daeth ‘Y Band’ draw i chwarae caneuon poblogaidd, arbennig wir. Diolch iddynt am ddod a rhoi eu hamser i ni.

Diolch i bawb ddaru biciad draw atom a gwneud y Farchnad yn un mor arbennig.

Dweud eich dweud