Llwybr Llechi Eryri – Gweithio i`n cymunedau

Ymddiriedolaeth Llwybr Llechi Eryri

Ymddiriedolaeth Llwybr Llechi Eryri

Mae tîm Llwybr Llechi Eryri allan o amgylch y rhanbarth yn gweithio ar ddau brosiect addysgiadol iawn. Mae un prosiect wedi bod yn casglu gwybodaeth am sut mae’r Llwybr yn gweithio i’w ymwelwyr ac i fusnesau lleol yn ein cymunedau amrywiol. Cafwyd ymateb ardderchog i’w harolygon a’u hymholiadau, ac mae’r canlyniadau bellach yn cael eu dadansoddi ar gyfer yr adroddiad terfynol. Yn gynwysedig yn yr adroddiad hwn bydd set bellach o ganfyddiadau gan dîm o naw Ymchwilydd Llechi sydd hefyd wedi bod yn ymgysylltu â bobl yn y cymunedau ac yn casglu adborth a mewnwelediad gwerthfawr. Gobeithiwn y bydd yr ymchwil hwn yn darparu “gwybodaeth busnes” defnyddiol i gynorthwyo pawb sy’n ymwneud â Llwybr Llechi Eryri ac sy’n cael eu heffeithio ganddo i gydweithio i wneud gwelliannau a pharhau i ddatblygu twristiaeth i’r ardal sy’n cyfoethogi’r iaith Gymraeg a’i diwylliant mewn modd cynaliadwy. Ariennir y prosiect hwn gan raglen Grymuso Gwynedd a reolir gan Menter Môn.

Mae`r ail brosiect sydd ar y gweill yn adeiladu setiau dwyieithog o adnoddau ysgolion i gynorthwyo athrawon a disgyblion i ymweld â lleoliadau treftadaeth lleol ar garreg eu drws. Mae’r adnoddau hyn yn helpu plant i chwarae rôl “ditectifs hanes”, gan ennyn eu chwilfrydedd i ymchwilio a deall hanes a diwylliant y lleoedd cyfagos hyn. Mae’r prosiect yn casglu setiau o adnoddau digidol i’w helpu i archwilio ar y safle mewn ffordd dywysedig, ac i wneud gwaith dilynol pellach ar-lein phan fyddant yn dychwelyd i’r dosbarth. Mae’r setiau cyntaf o ddeunyddiau yn astudio lleoliadau awyr agored o amgylch Dyffryn Nantlle ac o amgylch Cwm Penmachno, ac wrth i ni ddysgu o’r prosiect cychwynnol hwn, rydym yn gobeithio yn y pen draw i gymhwyso hyn i set bellach o leoliadau awyr agored o amgylch yr ardal.

Dweud eich dweud