Llewyrch yr Arth yn rhoi sioe dda yn Nyffryn Nantlle neithiwr

Pwy fuodd yn lwcus i weld Llewyrch yr Arth neithiwr? gawson ni goblyn o sioe dda yn Nebo.

Bethan Moseley
gan Bethan Moseley

Roedd hi’n noson glir eitha oer, hefo’r gwynt wedi dod o gyfeiriad y gogledd. Es i a Lil y ferch fyny at waelod Lôn Mast lle da ni ar ffin Parc Cenedlaethol Eryri a’r Warchodfa Awyr Dywyll. Roeddan ni’n gweld goleuadau bach o’r pentrefi cyfagos, ond hefyd yn gweld y ser a chysgod y mynyddoedd yn ymddangos yn ddu. Dechreuodd yr awyr daflu cysgodion ychydig bach o wyrdd a phinc, ac roedd y lliwiau yn cryfhau wrth dynnu lluniau gyda chamera ffôn Samsung Flip 4. Roeddan ni’n gweld lliwiau bendigedig a byddwn wedi medru aros yna trwy’r nos yn mwynhau’r sioe ond roedd ein traed ni wedi dechra’ fferu. Felly yn ôl lawr i’r tŷ a ni, a chael paned boeth i ddadmar. Gwelais fod fy ffrind Nia Tir Bach wedi postio lluniau hefo’r awyr yn edrych yn binc hyfryd, a dyma hi’n dweud bod y llewyrch yn gryf eto felly allan a ni i ddrws y tŷ. Yn wir roedd yr awyr yn goch, binc, gwyrdd hefo tonnau o liwiau hyfryd yn llenwi’r awyr. Ymlaen a ni rownd i’r cae yng nghefn y tŷ a gweld yr awyr yn hyd yn oed fwy lliwgar a llachar fel y gwelwch yn y lluniau. Swn i wedi medru aros allan yn yr ardd trwy’r nos ond eto, roedd y traed wedi mynd yn oer ac roedd rhaid mynd i’r gwely er mwyn codi i fynd i’r gwaith yn fuan yn bore. Ar ôl postio’r lluniau ar ffesbwc, Llên Natur a Galwad Cynnar, ges i drafferth cysgu, dal yn edrych drwy ffenest yr estyniad rhag ofn bod natur yn rhoi sioe arall. Dwi ddim yn cofio mynd i gysgu a dwi ddim yn cofio pryd ddaru fy traed gnesu. Ond deffro tua pump nes i ac allan i weld pa liw oedd yr awyr. Dipyn bach o binc a glas hyfryd oedd yr awyr, fel bod Llewyrch yr arth yn mynd i gysgu. Cofiwch edrych allan am y gogledd eto heno, rhag ofn bydd na sioe arall. A gwisgwch sanau cynnes.

Ymunwch â’r sgwrs

Ceridwen
Ceridwen

Diolch am rannu